Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai'r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren.

2. Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu'r ddaear a'r môr,

3. Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na'r môr, na'r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.

4. Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel.

5. O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

6. O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

7. O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

8. O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

9. Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo;

10. Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i'r Oen.

11. A'r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a'r henuriaid, a'r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

12. Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.

13. Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw'r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?

14. Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw'r rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a'u canasant hwy yng ngwaed yr Oen.

15. Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt.

16. Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na'r haul, na dim gwres.

17. Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a'u bugeilia hwynt, ac a'u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.