Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Esra yn Cyrraedd Jerwsalem

1. Wedi'r digwyddiadau hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, cyrhaeddodd Esra fab Saraias, fab Eserias, fab Chelcias, fab Salemus,

2. fab Sadoc, fab Ahitob, fab Amarias, fab Osias, fab Bocca, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.

3. Daeth yr Esra hwn i fyny o Fabilon yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan Dduw Israel.

4. Rhoddodd y brenin anrhydedd iddo ac ymateb yn ffafriol i bob cais o'r eiddo.

5. Daeth rhai o'r Israeliaid, yn offeiriaid ac yn Lefiaid, ynghyd â chantorion, porthorion a gweision y deml, i fyny gydag ef i Jerwsalem

6. yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes, yn y pumed mis (hon oedd seithfed flwyddyn y brenin). Gadawsant Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis, oherwydd i'r Arglwydd roi iddynt daith rwydd er ei fwyn.

7. Meddai Esra ar wybodaeth mor llwyr fel nad esgeulusai unrhyw ran o gyfraith yr Arglwydd na'i gorchmynion, a dysgai i Israel gyfan y deddfau a'r barnedigaethau i gyd.

Gorchymyn Artaxerxes i Esra

8. Dyma gopi o'r gorchymyn ysgrifenedig a ddaeth oddi wrth y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd:

9. “Y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, cyfarchion.

10. Yn unol â'm penderfyniad tirion, gorchmynnais y caiff pwy bynnag o genedl yr Iddewon ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid, ac eraill yn ein teyrnas sy'n dymuno ac yn dewis gwneud hynny, fynd gyda thi i Jerwsalem.

11. Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr,

12. i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd,

13. ac i gludo i Jerwsalem i Arglwydd Israel y rhoddion a addunedais i a'm cyfeillion, ac i ddwyn yr holl aur ac arian y gellir eu darganfod yng ngwlad Babilon, ynghyd â'r hyn a gyfrannwyd gan y genedl at deml eu Harglwydd yn Jerwsalem.

14. Gwarier yr aur a'r arian ar deirw, hyrddod ac ŵyn, a phethau cysylltiedig â hwy,

15. er mwyn offrymu aberthau ar allor yr Arglwydd yn Jerwsalem.

16. Beth bynnag y byddi di a'th deulu yn dymuno'i wneud â'r aur a'r arian, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw,

17. a'r un modd â'r llestri sanctaidd a roddir iti at wasanaeth teml dy Dduw yn Jerwsalem.

18. A beth bynnag arall y gweli fod ei angen at wasanaeth teml dy Dduw, fe gei ei roi o storfa'r brenin.

19. Ac yr wyf fi, y Brenin Artaxerxes, wedi gorchymyn bod trysoryddion Syria a Phenice i roi iddo yn ddiymdroi bob peth yr enfyn Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith y Duw Goruchaf amdano,

20. hyd at gan talent o arian, a'r un modd hyd at gan mesur yr un o wenith a gwin, a digonedd o halen.

21. Y mae holl ofynion cyfraith Duw i'w cyflawni'n ddiwyd er clod i'r Duw Goruchaf, rhag i'w ddigofaint ddisgyn ar deyrnas y brenin a'i feibion.

22. Rhoddir hefyd ar ddeall ichwi nad oes unrhyw dreth na tholl arall i'w gosod ar neb o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision y deml na gweithwyr y deml hon; ac nad oes gan neb awdurdod i fynnu dim ganddynt.

23. Ac yr wyt tithau, Esra, yn unol â doethineb Duw, i benodi barnwyr ac ustusiaid i farnu pawb yn holl Syria a Phenice sy'n gwybod cyfraith dy Dduw; ac yr wyt i ddysgu'r rhai sydd heb ei gwybod.

24. Pob un sy'n troseddu cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, y mae i'w ddedfrydu'n ddi-oed naill ai i farwolaeth neu i ryw gosb arall, boed ddirwy neu garchar.”

Esra yn Moliannu Duw

25. Meddai Esra, “Bendigedig fyddo'r unig Arglwydd, a symbylodd y brenin i harddu ei dŷ yn Jerwsalem,

26. ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i holl gyfeillion a'i bendefigion.

27. Am fod yr Arglwydd fy Nuw yn fy nghynorthwyo, ymwrolais a chasglu gwŷr o Israel i fynd i fyny gyda mi.

Y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud

28. “Dyma'r arweinwyr, yn ôl eu teuluoedd a'u hadrannau, a ddaeth i fyny gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes:

29. o deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Gamelus; o deulu Dafydd, Attus fab Sechenias.

30. O deulu Phoros, Sacharias, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef.

31. O deulu Phaath-Moab, Eliaonias fab Saraias, a dau gant o ddynion gydag ef.

32. O deulu Sathoe, Sechenias fab Jeselus, a thri chant o ddynion gydag ef; o deulu Adin, Obeth fab Jonathan, a dau gant a hanner o ddynion gydag ef.

33. O deulu Elam, Jesias fab Gotholias, a saith deg o ddynion gydag ef.

34. O deulu Saffatias, Saraias fab Michael, a saith deg o ddynion gydag ef.

35. O deulu Joab, Abadias fab Jeselus, a dau gant a deuddeg o ddynion gydag ef.

36. O deulu Bani, Assalimoth fab Josaffias, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.

37. O deulu Babi, Sacharias fab Bebai, a dau ddeg wyth o ddynion gydag ef.

38. O deulu Asgath, Joanes fab Hacatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.

39. O deulu Adonicam, y rhai olaf, a'u henwau yw: Eliffalatus, Jewel a Samaias, a saith deg o ddynion gyda hwy.

40. O deulu Bago, Wthi fab Istalcwrus, a saith deg o ddynion gydag ef.

Esra yn Ceisio Offeiriaid a Lefiaid i'r Deml

41. “Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, a buom yn gwersyllu yno dridiau, ac archwiliais hwy.

42. Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,

43. anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas,

44. Elnatan, Samaias, Joribus, Nathan, Enmatas, Sacharias a Mesolamus, a oedd yn wŷr blaenllaw a gwybodus,

45. a dywedais wrthynt am fynd at Adaius, y pennaeth yn y trysordy,

46. gan orchymyn iddynt ofyn i Adaius a'i frodyr a'r trysoryddion yno anfon atom rai i weinyddu fel offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.

47. A thrwy law nerthol ein Harglwydd dygasant inni ddynion gwybodus o deulu Mooli fab Lefi, fab Israel, sef Asebebias a'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;

48. hefyd Asebias ac Annwnus a Mosaias ei frawd, o deulu Chanwnaius, a'u meibion, ugain ohonynt i gyd;

49. a dau gant ac ugain o weision y deml, a osodasai Dafydd a'r swyddogion i gynorthwyo'r Lefiaid. Gwnaethpwyd rhestr o'r enwau i gyd.

Esra yn Arwain y Bobl mewn Ympryd a Gweddi

50. “Yno cyhoeddais ympryd i'r gwŷr ifainc o flaen ein Harglwydd, i geisio ganddo siwrnai ddiogel i ni, i'n plant a oedd gyda ni, ac i'n hanifeiliaid.

51. Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am osgordd o filwyr traed a marchogion i'n cadw'n ddiogel rhag ein gelynion,

52. am ein bod wedi dweud wrth y brenin, ‘Bydd nerth ein Harglwydd gyda'r rhai sy'n ei geisio ac yn eu cynnal ymhob ffordd.’

53. Felly unwaith eto rhoesom hyn i gyd o flaen ein Harglwydd mewn gweddi, a'i gael yn raslon iawn.

Rhoddion i'r Deml

54. “Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebias ac Asabias a deg o'u brodyr gyda hwy,

55. a phwysais iddynt yr arian a'r aur a llestri sanctaidd tŷ ein Harglwydd, rhoddion gan y brenin ei hun a'i gynghorwyr a'i dywysogion a holl Israel.

56. Wedi ei bwyso trosglwyddais i'w gofal chwe chant a hanner o dalentau o arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,

57. ac ugain o lestri aur, a deuddeg llestr o bres, ie, o'r pres gorau sy'n disgleirio fel aur.

58. A dywedais wrthynt, ‘Yr ydych chwi'n gysegredig i'r Arglwydd, ac y mae'r llestri'n gysegredig, ac offrwm adduned i'r Arglwydd, Arglwydd ein hynafiaid, yw'r arian a'r aur.

59. Byddwch effro a gwyliwch drostynt hyd nes ichwi eu trosglwyddo i benaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel yn Jerwsalem, yn ystafelloedd yr offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.’

60. A chymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arian a'r aur a'r llestri a berthynai i Jerwsalem, a'u dwyn i deml yr Arglwydd.

Cyrraedd Jerwsalem

61. “Gadawsom Afon Theras ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf a chyrraedd Jerwsalem, oherwydd yr oedd llaw nerthol ein Harglwydd gyda ni. Gwaredodd ni oddi wrth bob gelyn ar y ffordd, ac felly y daethom i Jerwsalem.

62. Wedi inni fod yno dridiau, pwyswyd yr arian a'r aur a'u trosglwyddo yn nhŷ ein Harglwydd i Marmoth fab Wria yr offeiriad;

63. a chydag ef yr oedd Eleasar fab Phinees. Yr oedd y Lefiaid, Josabdus fab Jesua a Möeth fab Sabannus, hefyd gyda hwy. Gwnaed cyfrif o'r cwbl a'u pwyso;

64. cofnodwyd pwysau popeth yr un pryd.

65. Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud aberthau i'r Arglwydd, Duw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod,

66. saith deg a dau o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth hedd; yr oedd y cwbl yn offrwm i'r Arglwydd.

67. Hefyd rhoesant orchmynion y brenin i'r trysoryddion brenhinol a'r llywodraethwyr yn Celo-Syria a Phenice, a rhoes y rheini anrhydedd i'r genedl ac i deml yr Arglwydd.”

Esra yn Clywed am y Priodi â Merched Estron

68. “Wedi cwblhau'r pethau hyn daeth y penaethiaid ataf a dweud,

69. ‘Nid yw pobl Israel, na'u llywodraethwyr, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth frodorion cenhedlig y wlad a'u haflendid—y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Edomiaid.

70. Y maent wedi cymryd merched y rheini yn wragedd iddynt hwy a'u meibion, a chymysgu'r hil sanctaidd â brodorion cenhedlig y wlad; bu gan yr arweinwyr a'r penaethiaid ran yn y camwedd hwn o'r cychwyn.’

71. Cyn gynted ag y clywais hyn, rhwygais fy nillad a'm mantell sanctaidd, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn ac yn drist iawn.

72. Ymgasglodd ataf yr holl rai a gynhyrfwyd y pryd hynny gan air Arglwydd Israel wrth inni alaru dros y camwedd hwn, ac eisteddais yn drist iawn hyd amser yr offrwm hwyrol.

73. Yna codais o'm hympryd, a'm dillad a'm mantell sanctaidd amdanaf wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr Arglwydd

74. a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron,

75. oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd.

76. Felly y bu o ddyddiau ein hynafiaid, ac yr ydym yn dal mewn pechod mawr hyd y dydd hwn.

77. Ac oherwydd ein pechodau ni a phechodau einhynafiaid fe'n traddodwyd ni, ynghyd â'n brodyr, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, i afael brenhinoedd y ddaear, i'r cleddyf ac i gaethiwed, i anrhaith a gwarth hyd y dydd hwn.

78. Ac yn awr, mor fawr yw dy drugaredd tuag atom, O Arglwydd, gan iti adael gwreiddyn ac enw yn dy le sanctaidd,

79. ac ailgynnau ein goleuni yn nhŷ ein Harglwydd, a rhoi cynhaliaeth i ni yn amser ein caethiwed.

80. Hyd yn oed yn ein caethiwed ni'n gadawyd gan ein Harglwydd: parodd i frenhinoedd Persia edrych â ffafr arnom a rhoi bwyd inni,

81. ac anrhydeddu teml ein Harglwydd ac ailgodi adfeilion Seion er mwyn rhoi i ni droedle cadarn yn Jwda a Jerwsalem.

82. Ac yn awr, Arglwydd, a'r pethau hyn gennym, beth a ddywedwn ni? Oherwydd yr ydym wedi torri dy orchmynion, a roddaist trwy dy weision y proffwydi gan ddweud,

83. “Y mae'r wlad yr ydych yn mynd i'w hetifeddu yn wlad halogedig, wedi ei halogi gan y brodorion cenhedlig a'i llenwi ganddynt â'u hanifeiliaid.

84. Am hynny, peidiwch â rhoi eich merched mewn priodas i'w meibion na chymryd eu merched hwy i'ch meibion chwi,

85. a pheidiwch byth â cheisio heddwch â hwy; ac felly fe fyddwch yn gryf, a mwynhau braster y wlad a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.”

86. Daeth hyn i gyd i'n rhan drwy ein drwgweithredoedd a'n pechodau mawr. Er i ti, Arglwydd, ysgafnhau baich ein pechodau

87. a rhoi'r fath wreiddyn i ni, yr ydym ni unwaith eto wedi gwrthgilio a thorri dy gyfraith drwy ymgyfathrachu â chenhedloedd aflan y wlad.

88. Oni fuost ti'n ddigon dig wrthym i'n dinistrio a'n gadael heb na gwreiddyn na had nac enw?

89. Arglwydd Israel, ffyddlon wyt ti, gan iti ein cadw yn wreiddyn hyd heddiw.

90. Dyma ni, yn awr, yn dy ŵydd yn ein camweddau, oherwydd ni allwn hyd yn hyn sefyll o'th flaen yn ein heuogrwydd.’

Y Cynllun i Ddileu Priodi Merched Estron

91. Tra oedd Esra'n gweddïo ac mewn dagrau yn cyffesu, ar ei hyd o flaen y deml, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Jerwsalem ato, yn wŷr, gwragedd a llanciau; ac yr oedd y gynulleidfa'n wylo'n hidl.

92. Yna galwodd Jechonias fab Jeelus, un o'r Israeliaid, a dweud wrth Esra, “Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd trwy briodi merched estron o blith y brodorion; ond hyd yn oed yn awr y mae gobaith i Israel.

93. Gadewch i ni dyngu llw i'r Arglwydd, i fwrw allan yr holl wragedd estron sydd yn ein plith, a'u plant,

94. yn unol â'th ddedfryd di a phawb sy'n ufudd i gyfraith yr Arglwydd.

95. Cod a gweithreda, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi i'th gefnogi.”

96. Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr offeiriaid a Lefiaid holl Israel dyngu llw i'r perwyl hwn; a thyngu a wnaethant.