Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Joseia yn Dathlu'r Pasg

1. Cadwodd Joseia ŵyl y Pasg i'w Arglwydd yn Jerwsalem, ac offrymodd oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

2. Gosododd yr offeiriaid yn nheml yr Arglwydd, pob un yn ôl ei adran ac yn ei urddwisg.

3. Gorchmynnodd i'r Lefiaid, gwasanaethwyr teml Israel, eu sancteiddio'u hunain i'r Arglwydd er mwyn gosod arch sanctaidd yr Arglwydd yn y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon, mab Dafydd.

4. Dywedodd Joseia wrthynt: “Nid oes rhaid ichwi mwyach ei dwyn ar eich ysgwyddau; yn awr gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw a gweini ar ei genedl, Israel, a gwnewch baratoadau fesul teulu a thylwyth yn unol â'r hyn a ysgrifennodd Dafydd brenin Israel, ac yn gweddu i wychder Solomon ei fab.

5. Safwch mewn trefn yn y deml, yn ôl dosbarthiad eich teulu, fel Lefiaid ym mhresenoldeb eich brodyr yr Israeliaid; offrymwch oen y Pasg a pharatowch yr aberthau dros eich brodyr.

6. Dathlwch ŵyl y Pasg yn ôl y gorchymyn a roddodd yr Arglwydd i Moses.”

7. Cyflwynodd Joseia i'r bobl oedd yn bresennol rodd o ddeng mil ar hugain o ŵyn a mynnod a thair mil o loi. Rhoddwyd y pethau hyn o stadau'r brenin yn unol â'i addewid i'r bobl ac i'r offeiriaid a'r Lefiaid.

8. Rhoddodd Chelcias, Sachareias ac Esuelus, goruchwylwyr y deml, ddwy fil chwe chant o ddefaid a thri chant o loi i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg.

9. Rhoddodd yr uchel-swyddogion milwrol, Jechonias, Samaias, Nathanael ei frawd, Asabias, Ochielus a Joram, bum mil o ddefaid a saith gant o loi i'r Lefiaid ar gyfer y Pasg.

10. Dyma'r hyn a ddigwyddodd: safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn drefnus, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd ym mhresenoldeb y bobl, yn dwyn y bara croyw,

11. i offrymu i'r Arglwydd yn unol â'r hyn a ysgrifennwyd yn llyfr Moses. Digwyddodd hyn yn y bore.

12. Rhostiasant oen y Pasg ar dân yn ôl y ddefod, a berwi'r aberthau mewn pedyll a chrochanau, gydag arogl pêr, ac yna eu rhannu i bawb o blith y bobl.

13. Ar ôl hyn gwnaethant baratoadau iddynt eu hunain ac i'w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron,

14. oherwydd parhaodd yr offeiriaid i offrymu'r braster hyd yr hwyr. Felly y gwnaeth y Lefiaid y paratoadau iddynt eu hunain ac i'w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron.

15. Arhosodd cantorion y deml, meibion Asaff, ynghyd ag Asaff, Sachareias, ac Edinws o lys y brenin,

16. a'r porthorion ar bob porth, yn eu lleoedd yn unol â gorchmynion Dafydd; nid oedd gan neb ohonynt hawl i esgeuluso ei adran ei hun, gan fod ei frodyr, y Lefiaid, wedi paratoi ar ei gyfer.

17. Cwblhawyd popeth ynglŷn â'r aberth i'r Arglwydd y diwrnod hwnnw:

18. dathlwyd y Pasg ac offrymwyd yr aberthau ar allor yr Arglwydd yn unol â gorchymyn y Brenin Joseia.

19. Cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol yr adeg honno y Pasg a gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.

20. Ni ddathlwyd Pasg fel hwnnw yn Israel er dyddiau'r proffwyd Samuel;

21. ni chynhaliodd yr un o frenhinoedd Israel Basg tebyg i'r un a gynhaliodd Joseia a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel gyfan oedd yn digwydd preswylio yn Jerwsalem.

22. Dathlwyd y Pasg hwnnw yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia.

Diwedd Teyrnasiad Joseia

23. Gwnaeth Joseia bopeth yn gywir gerbron ei Arglwydd â chalon lawn duwioldeb.

24. Ysgrifennwyd eisoes ddigwyddiadau ei ddyddiau mewn adroddiadau am y rhai a bechodd yn fwy yn erbyn yr Arglwydd ac a fu'n fwy annuwiol nag unrhyw genedl neu deyrnas arall, ac a'i tristaodd yn fawr, nes i eiriau barn yr Arglwydd ddisgyn ar Israel.

25. Ar ôl yr holl weithgarwch hwn o eiddo Joseia, digwyddodd Pharo brenin yr Aifft ddod i ryfela yn Carchemis ar lan Afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.

26. Anfonodd brenin yr Aifft neges ato i ofyn: “Pam yr wyt yn ymyrryd â mi, frenin Jwda?

27. Nid yn dy erbyn di y'm hanfonwyd gan yr Arglwydd Dduw, oherwydd yn ymyl Afon Ewffrates y mae fy mrwydr. Ac yn awr y mae'r Arglwydd gyda mi; ydyw, mae'r Arglwydd gyda mi, yn fy ngyrru ymlaen. Dos yn dy ôl, a phaid â gwrthwynebu'r Arglwydd.”

28. Ond ni throdd Joseia ei gerbyd rhyfel yn ôl, ond ceisiodd ymladd ag ef, gan anwybyddu geiriau'r Arglwydd drwy enau'r proffwyd Jeremeia.

29. Aeth i frwydr yn erbyn Pharo ar wastadedd Megido. Ymosododd tywysogion hwnnw ar y Brenin Joseia,

30. a dywedodd yntau wrth ei weision, “Ewch â mi allan o'r frwydr, oherwydd fe'm clwyfwyd yn arw.” Cludodd ei weision ef yn syth o faes y gad,

31. a'i godi i'w ail gerbyd. Yna, wedi iddo gael ei ddwyn yn ôl i Jerwsalem, bu farw ac fe'i claddwyd ym meddrod ei ragflaenwyr.

32. Bu galaru am Joseia trwy Jwda i gyd, a chanodd Jeremeia'r proffwyd alarnad amdano; a galarodd yr arweinwyr amdano, gyda'u gwragedd, hyd y dydd hwn. Gorchmynnwyd cadw'r arferiad hwn am byth drwy holl genedl Israel.

33. Y mae'r pethau hyn wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda; pob gweithred a gyflawnodd Joseia, ei enw da a'i ddealltwriaeth o gyfraith yr Arglwydd, ei weithredoedd gynt a'r rhai a adroddir yn awr, y mae'r hanes wedi ei gofnodi yn y gyfrol am frenhinoedd Israel a Jwda.

Y Brenin Jechoneia yn Jwda

34. Cymerodd rhai o'i gyd-genedl Jechoneia fab Joseia, a'i gyhoeddi'n frenin yn lle ei dad Joseia pan oedd yn dair ar hugain oed.

35. Teyrnasodd yn Jwda a Jerwsalem am dri mis, ac yna symudodd brenin yr Aifft ef o deyrnasu yn Jerwsalem,

36. a gosododd dreth ar y genedl o gan talent o arian ac un dalent o aur.

37. Yna cyhoeddodd brenin yr Aifft ei frawd Joacim yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

38. Carcharodd Joacim y pendefigion, a daliodd ei frawd Sarius a'i ddwyn yn ôl o'r Aifft.

Y Brenin Jehoiacim yn Jwda

39. Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

40. Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon ar ymgyrch yn ei erbyn, ei rwymo mewn cadwyn bres, a'i ddwyn ymaith i Fabilon.

41. Cymerodd Nebuchadnesar hefyd rai o lestri sanctaidd yr Arglwydd, gan eu cludo i ffwrdd a'u gosod yn ei deml ym Mabilon.

42. Y mae hanes Joacim a'i ymarweddiad amhur ac annuwiol wedi ei ysgrifennu yn llyfr croniclau'r brenhinoedd.

Y Brenin Jehoiachin yn Jwda

43. Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. Pan ddaeth i'r orsedd yr oedd yn ddeunaw oed.

44. Bu'n frenin am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

45. Ymhen blwyddyn anfonodd Nebuchadnesar i'w ddwyn i Fabilon ynghyd â llestri sanctaidd yr Arglwydd.

46. Cyhoeddodd Sedeceia yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.Un ar hugain oed oedd Sedeceia ar y pryd, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg.

Y Brenin Sedeceia yn Jwda

47. Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, heb ystyried y geiriau a lefarwyd gan yr Arglwydd drwy enau'r proffwyd Jeremeia.

Cwymp Jerwsalem

48. Wedi iddo dyngu llw o deyrngarwch i'r Brenin Nebuchadnesar yn enw'r Arglwydd, torrodd Sedeceia y llw a gwrthryfelodd. Aeth yn wargaled ac ystyfnig a throseddodd ddeddfau Arglwydd Dduw Israel.

49. Cyflawnodd arweinwyr y bobl a'r prif offeiriaid lawer o bethau annuwiol, a thorri'r gyfraith, gan ymddwyn yn waeth na'r cenhedloedd i gyd ym mhob math o amhurdeb, a halogi teml yr Arglwydd, a oedd wedi ei chysegru yn Jerwsalem.

50. Anfonodd Duw eu hynafiaid drwy ei negesydd i'w galw'n ôl, am fod ei fryd ar eu harbed hwy a'i dabernacl.

51. Ond gwatwarasant ei negeswyr, ac ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd yr oeddent yn gwawdio ei broffwydi,

52. nes iddo ddigio wrth ei genedl oherwydd eu gweithredoedd annuwiol, a threfnu i frenhinoedd y Caldeaid ymosod arnynt.

53. Lladdodd y rhain eu dynion ifainc â'r cleddyf o gwmpas eu teml sanctaidd, heb arbed na bachgen na merch, na hen nac ifanc;

54. ond traddodwyd hwy i gyd i'w dwylo. Cymerasant holl lestri sanctaidd yr Arglwydd, mawr a bach, ac addurniadau Arch yr Arglwydd, a thrysorau'r brenin, a'u cludo ymaith i Fabilon.

55. Llosgasant dŷ'r Arglwydd, dinistrio muriau Jerwsalem a difa ei thyrau â thân,

56. nes gorffen difodi ei holl wychder hi. Dug Nebuchadnesar y gweddill ymaith i Fabilon â chleddyf.

57. Buont yn weision iddo ac i'w feibion nes i'r Persiaid ddod i deyrnasu, er mwyn cyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Jeremeia:

58. “Hyd nes y cyflawna'r wlad ei sabothau, bydd yn cadw saboth holl amser ei hanghyfanedd-dra hyd ddiwedd deng mlynedd a thrigain.”