Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Rhestr y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud

1. Wedi'r pethau hyn dewiswyd y pennau-teuluoedd, bob yn llwyth, i fynd i fyny ynghyd â'u gwragedd, eu meibion a'u merched, eu caethweision yn wryw ac yn fenyw, a'u hanifeiliaid.

2. Anfonodd Dareius gyda hwy fil o farchogion i'w dwyn yn ôl i Jerwsalem yn ddiogel i gyfeiliant drymiau a phibau,

3. a'u holl gyd-Iddewon yn dawnsio. Felly y parodd iddynt fynd i fyny gyda'r osgordd hon.

4. Dyma enwau'r dynion a aeth i fyny yn ôl eu teuluoedd a'u llwythau yn eu trefn:

5. yr offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron; Jesua fab Josedec, fab Saraias, a Joacim fab Sorobabel, fab Salathiel, o dŷ Dafydd o linach Phares o lwyth Jwda,

6. a lefarodd eiriau doeth gerbron Dareius brenin y Persiaid yn ail flwyddyn ei frenhiniaeth, yn y mis Nisan, y mis cyntaf.

7. Dyma'r rhai o Jwda a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud—y rhai a gludodd Nebuchadnesar brenin Babilon i Fabilon—

8. ac a ddychwelodd i Jerwsalem a gweddill Jwda, pob un i'w dref ei hun. Daethant gyda Sorobabel a Jesua, Nehemeia, Saraias, Resaias, Enenius, Mardochaius, Beelsarus, Asffarasus, Borolius, Roimus, a Baana, eu harweinwyr.

9. Dyma nifer aelodau'r genedl, ac enwau eu harweinwyr: teulu Phorus, dwy fil un cant saith deg a dau; teulu Saffat, pedwar cant saith deg a dau;

10. teulu Ares, saith gant pum deg a chwech;

11. teulu Phaath-Moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;

12. teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar; teulu Satus, naw cant pedwar deg a phump; teulu Chorbe, saith gant a phump; teulu Bani, chwe chant pedwar deg ac wyth;

13. teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri; teulu Asgad, mil tri chant dau ddeg a dau;

14. teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith; teulu Bagoi, dwy fil chwe deg a chwech; teulu Adinus, pedwar cant pum deg a phedwar;

15. teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg a dau; teulu Cilan ac Asetas, chwe deg a saith; teulu Aswrus, pedwar cant tri deg a dau;

16. teulu Annias, cant ac un; teulu Arom; teulu Besai, tri chant dau ddeg a thri; teulu Hariff, cant a deuddeg;

17. teulu Baiterus, tair mil a phump; teulu Bethlomon, cant dau ddeg a thri;

18. y rhai o Neteba, pum deg a phump; y rhai o Enatos, cant pum deg ac wyth; y rhai o Beth Asmos, pedwar deg a dau;

19. y rhai o Cariathiarius, dau ddeg a phump; y rhai o Capira a Beroth, saith gant pedwar deg a thri;

20. y Chadiasiaid a'r Ammidiaid, pedwar cant dau ddeg a dau; y rhai o Cirama a Gabbes, chwe chant dau ddeg ac un;

21. y rhai o Macalon, cant dau ddeg a dau; y rhai o Betolio, pum deg a dau; teulu Niffis, cant pum deg a chwech;

22. teulu'r Elam arall ac Onus, saith gant dau ddeg a phump; teulu Jerechus, tri chant pedwar deg a phump;

23. teulu Senaa, tair mil tri chant tri deg.

24. Yr offeiriaid: teulu Jedu fab Jesua o linach Anasib, naw cant saith deg a dau; teulu Emmerus, mil pum deg a dau;

25. teulu Phasswrus, mil dau gant pedwar deg a saith; teulu Charme, mil un deg a saith.

26. Y Lefiaid: teuluoedd Jesua, Cadmielus, Bannus a Sudius, saith deg a phedwar.

27. Cantorion y deml: teulu Asaff, cant dau ddeg ac wyth.

28. Y porthorion: teuluoedd Salum, Atar, Tolman, Acoub, Ateta a Sobai, cant tri deg a naw i gyd.

29. Gweision y deml: teuluoedd Esau, Asiffa, Tabaoth, Ceras, Swa, Phadaius, Labana, Aggaba,

30. Acwd, Wta, Cetab, Agab, Subai, Anan, Cathwa, Gedwr,

31. Jairus, Daisan, Noeba, Chaseba, Gasera, Osius, Phinoe, Asara, Basthai, Asana, Maani, Naffis, Acwff, Achiba, Aswr, Pharacim, Basaloth,

32. Moeda, Cwtha, Charea, Barchus, Serar, Thomi, Nasi, ac Atiffa.

33. Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Asaffioth, Pharida, Jeeli, Loson, Isdael, Saffuthi,

34. Agia, Phacareth o Sabie, Sarothie, Masias, Gas, Adus, Swbas, Afferra, Barodis, Saffat, Amon.

35. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant saith deg a dau.

36. Daeth y rhai canlynol i fyny o Thermeleth a Thelersa dan arweiniad Charaath, Adan ac Amar,

37. ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: teuluoedd Dalan fab Twba, a Necodan, chwe chant pum deg a dau.

38. Ac o blith yr offeiriaid honnodd y canlynol hawl i'r swydd, ond nid oedd cofnod o'u hachau: teuluoedd Obbia, Accos, Jodus, a briododd Augia, un o ferched Pharselaius,

39. a chymryd ei enw. Pan chwiliwyd yn aflwyddiannus am gofnod o'u hachau yn y rhestr, fe'u hataliwyd rhag gwasanaethu fel offeiriaid,

40. a gwaharddodd Nehemeia ac Attharias iddynt gyfranogi o'r pethau cysegredig nes y ceid archoffeiriaid yn gwisgo'r Wrim a'r Twmim

41. Y cyfanswm oedd: Israeliaid deuddeg oed a mwy, heblaw eu gweision a'u morynion, yn bedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg;

42. eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.

43. Yr oedd ganddynt bedwar cant tri deg a phump o gamelod, saith mil tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump a fulod, a phum mil pum cant dau ddeg a phump o asynnod.

44. Pan ddaethant i deml Duw yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd i godi'r tŷ ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu,

45. ac i roi i drysorfa'r deml ar gyfer y gwaith fil mina o aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.

46. Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.

Ailddechrau Addoli

47. Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.

48. Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel

49. er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.

50. Ymunodd rhai o bobloedd eraill y wlad â hwy. Codasant yr allor yn ei lle, er bod pobloedd y wlad yn gyffredinol yn elyniaethus iddynt ac yn gryfach na hwy, ac offrymasant aberthau yn eu priod amser a phoethoffrymau i'r Arglwydd fore a hwyr.

51. Cadwasant ŵyl y Pebyll fel y gorchmynnwyd yn y gyfraith, ac offrymu'r aberthau dyddiol fel yr oedd yn briodol,

52. ac ar ôl hyn yr aberthau cyson a'r rhai ar gyfer y sabothau a'r newydd-loerau a'r holl wyliau cysegredig.

53. Dechreuodd pob un a wnaethai lw i Dduw offrymu aberthau iddo o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd teml Duw wedi ei hadeiladu eto.

Dechrau Ailadeiladu'r Deml

54. Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod

55. a cherti i'r Sidoniaid a'r Tyriaid, i gyrchu cedrwydd o Libanus a dod â hwy ar wyneb y dŵr i borthladd Jopa yn unol â'r cennad a roddwyd iddynt gan Cyrus brenin Persia.

56. Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i deml Duw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel ar y gwaith, ynghyd â Jesua fab Josedec a'u brodyr a'r offeiriaid Lefitaidd a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem.

57. Gosodasant sylfaen teml Duw ar ddydd cyntaf yr ail fis o'r ail flwyddyn wedi iddynt gyrraedd Jwdea a Jerwsalem.

58. Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.

59. Safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gydag offerynnau cerdd ac utgyrn, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau,

60. i foliannu'r Arglwydd a'i fendithio yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.

61. Canasant emynau'n moliannu'r Arglwydd am fod ei ddaioni a'i ogoniant yn dragwyddol ar holl Israel.

62. Yna seiniodd yr holl bobl utgyrn, a bloeddio'n uchel mewn moliant i'r Arglwydd wrth i dŷ'r Arglwydd godi.

63. Daeth rhai o'r offeiriaid Lefitaidd a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, at y gwaith adeiladu hwn â llefain ac wylofain mawr,

64. a daeth eraill lawer â'u hutgyrn a seinio'u llawenydd â sŵn mawr;

65. ond ni allai'r bobl glywed yr utgyrn oherwydd sŵn y bobl yn wylo, er bod y dyrfa'n seinio'r utgyrn mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.

Gwrthwynebu Ailadeiladu'r Deml

66. Pan glywodd gelynion llwyth Jwda a Benjamin, daethant i weld beth oedd ystyr sŵn yr utgyrn.

67. Wedi darganfod fod y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud yn adeiladu'r deml i Arglwydd Dduw Israel,

68. daethant at Sorobabel a Jesua a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi,

69. oherwydd yr ydym ni'n ufuddhau i'r Arglwydd fel chwithau, ac iddo ef hefyd yr ydym wedi aberthu er amser Asbasareth brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”

70. Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a phennau-teuluoedd Israel wrthynt: “Nid oes a wneloch chwi ddim â ni i adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw;

71. ni yn unig sydd i adeiladu i Arglwydd Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”

72. Yna aflonyddodd pobloedd y wlad yn drwm ar drigolion Jwda, gan osod gwarchae arnynt a'u rhwystro rhag adeiladu,

73. a thrwy gynllwynion a chreu terfysg a chyffro eu hatal rhag cwblhau'r adeilad holl ddyddiau'r Brenin Cyrus. Fe'u rhwystrwyd rhag adeiladu am ddwy flynedd hyd at deyrnasiad y Brenin Dareius.