1. Yna dechreuodd yr ail lefaru, yr un a soniai am gryfder y brenin.
2. “Foneddigion,” meddai, “onid dynion sydd gryfaf, gan eu bod yn llywodraethu tir a môr a phopeth sydd ynddynt?
3. A'r brenin yw'r cryfaf, oherwydd y mae'n arglwydd ac yn feistr ar bawb; ufuddhânt i bopeth y mae'n ei orchymyn iddynt.
4. Os yw'n gorchymyn iddynt ryfela yn erbyn ei gilydd, gwnânt hynny. Os yw'n eu hanfon allan yn erbyn ei elynion, fe ânt a dymchwel mynyddoedd, muriau a thyrau.
5. Er iddynt ladd a chael eu lladd, nid anufuddhânt i orchymyn y brenin. Os enillant fuddugoliaeth, i'r brenin y dygant bopeth, yr holl ysbail a phob dim arall.
6. Yn yr un modd y mae'r arddwyr, nad ydynt na milwyr na rhyfelwyr, yn trin y tir, ac at y brenin y dygant y cynnyrch wedi iddynt hau a medi. Mae pawb yn cymell ei gilydd i dalu trethi i'r brenin.
7. Ac eto, un yn unig yw ef. Os yw'n gorchymyn iddynt ladd, lladdant; os rhyddhau, rhyddhânt;
8. os taro, trawant; os difrodi, difrodant; os adeiladu, adeiladant;
9. os torri i lawr, torrant i lawr; os plannu, plannant.
10. Y mae ei holl bobl a'i luoedd yn ufuddhau iddo. At hyn oll, y mae'n cael eistedd i fwyta ac yfed, a syrthio i gysgu,
11. tra maent hwy'n gwylio o'i gwmpas. Ni chaiff un fynd i ymhél â'i orchwylion ei hun; nid ydynt yn anufuddhau iddo.
12. Foneddigion, rhaid mai'r brenin sydd gryfaf, gan ei fod yn derbyn y fath ufudd-dod.” A thawodd.
13. Yna dechreuodd y trydydd lefaru; Sorobabel oedd hwn, yr un a soniai am wragedd ac am wirionedd.
14. “Foneddigion,” meddai, “a yw'r brenin yn fawr, dynion yn niferus, a gwin yn gryf? Ydynt, ond pwy sy'n feistr ac yn arglwydd arnynt? Onid gwragedd?
15. Gwragedd a esgorodd ar y brenin a'i holl bobl, y rhai sy'n llywodraethu môr a thir.
16. O wragedd y daethant. Hwy hefyd a fagodd y rhai sy'n plannu'r gwinllannoedd y daw'r gwin ohonynt.
17. Hwy sy'n gwneud dillad i ddynion ac yn ennill clod iddynt; ni all dynion wneud heb wragedd.
18. Os yw dyn yn casglu aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth, ac yna'n canfod un wraig sy'n deg ei phryd a'i gwedd,
19. y mae'n gadael hynny i gyd er mwyn ei llygadu a syllu'n geg-agored arni. Byddai pob dyn yn ei dewis hi yn hytrach nag aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth.
20. Mae dyn yn gadael ei dad, a'i magodd, a hyd yn oed ei wlad ei hun, er mwyn glynu wrth ei wraig.
21. Gyda hi y treulia'i oes, gan anghofio tad a mam a gwlad.
22. Rhaid felly ichwi ddeall mai gwragedd sydd yn eich rheoli. Onid er mwyn rhoi a chludo popeth i'ch gwragedd yr ydych yn llafurio ac yn chwysu?
23. Y mae dyn yn cymryd ei gleddyf a mynd allan i deithio, ysbeilio, lladrata; y mae'n hwylio ar fôr ac ar afon;
24. y mae'n wynebu llewod ac yn cerdded yn y tywyllwch; y mae'n lladrata, ysbeilio a dwyn, a'r cyfan er mwyn cludo'r ysbail i'w anwylyd.
25. Mae dyn yn caru ei wraig ei hun yn fwy na'i dad a'i fam.
26. Gwragedd a barodd i lawer golli eu synnwyr a mynd yn gaethweision;
27. o achos gwragedd y bu farw llawer, neu lithro a phechu.
28. Nid ydych yn fy nghredu eto? A yw'r brenin yn fawr ei awdurdod? Ydyw. A phob gwlad yn ofni ymyrryd ag ef? Ydyw.
29. Eto gwelais ef gyda'i ordderch Apame, merch yr enwog Bartacus, pan eisteddai hi ar ei law dde
30. a chymryd y goron oddi ar ei ben a'i gosod ar ei phen ei hun, a tharo'r brenin â'i llaw chwith.
31. Edrychai'r brenin yn geg-agored arni. Pan fyddai hi'n gwenu arno, gwenai yntau; pan fyddai hi'n gas wrtho, byddai'n gwenieithio i'w chael i gymod ag ef.
32. Foneddigion, rhaid bod gwragedd yn gryf os ydynt yn ymddwyn fel hyn.”
33. Ar hynny, edrychodd y brenin a'r arweinwyr ar ei gilydd, ond dechreuodd y llanc siarad am wirionedd.
34. “Foneddigion, onid yw gwragedd yn gryf? Mae'r ddaear yn fawr, y nefoedd yn uchel, a'r haul yn gyflym yn ei gwrs wrth droi o amgylch y ffurfafen a dychwelyd i'w le ei hun mewn un diwrnod.
35. Onid mawr yw'r sawl sy'n gwneud y pethau hyn? Ond mawr hefyd yw gwirionedd; yn wir y mae'n gryfach na phopeth arall.
36. Mae'r holl ddaear yn apelio at wirionedd; mae'r nefoedd yn ei glodfori a'r holl greadigaeth yn ysgwyd ac yn crynu, ac nid oes dim anghyfiawnder ynddo.
37. Y mae anghyfiawnder mewn gwin; anghyfiawn yw'r brenin; anghyfiawn yw gwragedd; anghyfiawn yw'r ddynolryw gyfan â'i holl weithredoedd a phopeth tebyg. Nid oes ynddynt wirionedd, a darfod a wnânt yn eu hanghyfiawnder.
38. Erys gwirionedd yn gryf am byth; byw fydd, ac aros mewn grym yn oes oesoedd.
39. Gydag ef nid oes derbyn wyneb na ffafriaeth, ond y mae'n gwneud yr hyn sy'n gyfiawn yn hytrach na phopeth anghyfiawn a drwg. Mae pawb yn canmol ei weithredoedd,
40. ac yn ei farn nid oes dim anghyfiawnder. Iddo ef y mae'r nerth, y deyrnas, yr awdurdod a'r mawredd trwy'r holl oesoedd. Bendigedig fyddo Duw'r gwirionedd.”
41. Tawodd â sôn, a gwaeddodd yr holl bobl: “Mawr yw'r gwirionedd. Y mae'n gryfach na dim.”
42. Dywedodd y brenin wrtho: “Gofyn am yr hyn a ddymunit, hyd yn oed y tu hwnt i'r hyn a ysgrifennwyd, ac fe'i rhoddwn i ti, gan mai ti a gafwyd yn ddoethaf. Cei eistedd yn nesaf ataf a dwyn yr enw, ‘Câr i mi’.”
43. Dywedodd yntau wrth y brenin: “Cofia'r adduned a wnaethost, ar y dydd y derbyniaist y frenhiniaeth, i adeiladu Jerwsalem,
44. a chymryd ac anfon yn ôl yno yr holl lestri a ddygwyd o Jerwsalem ac a osododd Cyrus o'r neilltu. Pan addunedodd ef ddinistrio Babilon, addunedodd hefyd anfon y llestri yn ôl yno.
45. Addunedaist tithau hefyd adeiladu'r deml a losgodd yr Edomiaid pan ddifrodwyd Jwdea gan y Chaldeaid.
46. Yn awr, hyn yr wyf yn ei ofyn ac yn ei geisio gennyt, O arglwydd frenin, peth sy'n gwbl gyson â'th fawrfrydigrwydd; gofynnaf iti gyflawni'r adduned a wnaethost â'th enau dy hun i Frenin Nef.”
47. Cododd y Brenin Dareius a'i gusanu, ac ysgrifennu llythyrau ar ei ran i'r holl drysoryddion, swyddogion, cadfridogion a phenaethiaid, ar iddynt ei hebrwng ef yn ddiogel ynghyd â'r holl rai a fyddai'n mynd i fyny gydag ef i adeiladu Jerwsalem.
48. Hefyd ysgrifennodd lythyrau at yr holl swyddogion yn Celo-Syria a Phenice ac i'r rhai yn Libanus, yn gorchymyn iddynt gludo coed cedrwydd o Libanus i Jerwsalem, ac felly ei gynorthwyo i adeiladu'r ddinas.
49. Ysgrifennodd ar ran yr holl Iddewon a fyddai'n dod i fyny o'i deyrnas i Jwdea i'w sicrhau o'u rhyddid; ni fyddai'r un llywodraethwr, pennaeth, swyddog na thrysorydd yn torri i mewn drwy eu pyrth;
50. byddai'r holl wlad a feddiennid ganddynt yn ddi-dreth; byddai'r Edomiaid yn ildio pentrefi'r Iddewon a feddiannwyd ganddynt hwy;
51. byddai cyfraniad o ugain talent bob blwyddyn tuag at adeiladu'r deml nes i'r gwaith gael ei orffen,
52. a deg talent yn ychwanegol bob blwyddyn tuag at y poethoffrymau a offrymid yn ddyddiol ar yr allor yn unol â'r gorchymyn i offrymu un deg a saith;
53. câi pawb a ddôi o Fabilon i adeiladu'r ddinas ryddid iddynt eu hunain ac i'w plant yn ogystal ag i'r holl offeiriaid a fyddai'n dod.
54. Ysgrifennodd hefyd ynglŷn â'u treuliau, a'r gwisgoedd offeiriadol yr oeddent i'w defnyddio.
55. Gorchmynnodd roi eu treuliau i'r Lefiaid hyd nes cwblhau'r deml ac adeiladu Jerwsalem,
56. a rhoi tiroedd a chyflog i holl warchodwyr y ddinas.
57. Anfonodd yn ôl o Fabilon yr holl lestri a osododd Cyrus o'r neilltu; gorchmynnodd gyflawni holl orchmynion Cyrus ac anfon popeth yn ôl i Jerwsalem.
58. Pan aeth y llanc allan, dyrchafodd ei olwg tua'r nef, gan wynebu Jerwsalem a chanmol Brenin Nef fel hyn:
59. “Oddi wrthyt ti y daw buddugoliaeth, oddi wrthyt ti y daw doethineb, a thi biau'r gogoniant. Dy was di wyf fi.
60. Bendigedig wyt ti, a roddaist i mi ddoethineb. Clodforaf di, Arglwydd ein hynafiaid.”
61. Cymerodd y llythyrau, ac aeth i Fabilon a chyhoeddi hyn i'w gyd-Iddewon i gyd.
62. Canmolasant Dduw eu hynafiaid am iddo roi iddynt ryddid a chaniatâd
63. i fynd i fyny i adeiladu Jerwsalem a'r deml yr oedd ei enw ef arni. A buont yn dathlu am saith diwrnod â cherddoriaeth a llawenydd.