Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dadl y Tri Llanc gerbron y Brenin

1. Gwnaeth y Brenin Dareius wledd fawr i'r holl rai oddi tano, i'w holl deulu, i holl arweinwyr Media a Persia,

2. i'r holl benaethiaid, y cadfridogion a'r swyddogion oedd oddi tano yn y cant dau ddeg a saith o daleithiau o'r India i Ethiopia.

3. Ar ôl iddynt fwyta ac yfed a chael eu digon ymadawsant, ac aeth y Brenin Dareius i'w ystafell wely a chysgu, ond yna deffrôdd.

4. Wedyn dywedodd y tri llanc oedd yn gwarchod y brenin, y naill wrth y llall,

5. “Gadewch i bob un ohonom enwi un peth, y peth cryfaf, ac fe rydd y Brenin Dareius roddion gwerthfawr a gwobrau gwych i'r sawl y bydd ei ddywediad yn ymddangos yn ddoethach na'r lleill.

6. Fe'i gwisgir mewn porffor, caiff yfed allan o lestri aur, cysgu ar wely aur, cael cerbyd â ffrwynau aur, penwisg o liain main, a chadwyn am ei wddf.

7. Caiff eistedd yn nesaf at Dareius oherwydd ei ddoethineb, a dwyn yr enw, ‘Câr Dareius’.”

8. Yna ysgrifennodd pob un ei ateb ei hun, ei selio a'i osod o dan obennydd y Brenin Dareius,

9. gan ddweud, “Pan fydd y brenin yn deffro, rhoddir iddo yr hyn a ysgrifennwyd. I'r un y bydd y brenin a thri arweinydd Persia yn barnu mai ei ateb yw'r doethaf y rhoddir y fuddugoliaeth yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd.”

10. Ysgrifennodd y cyntaf, “Gwin sydd gryfaf.”

11. Ysgrifennodd yr ail, “Y brenin sydd gryfaf.”

12. Ysgrifennodd y trydydd, “Gwragedd sydd gryfaf, ond y mae gwirionedd yn drech na phopeth.”

13. Pan ddeffrôdd y brenin, cymerasant yr hyn a ysgrifennwyd a'i roi iddo, ac fe'i darllenodd.

14. Yna anfonodd a galw ynghyd holl arweinwyr Persia a Media, y penaethiaid, y cadfridogion, y swyddogion a'r is-swyddogion.

15. Eisteddodd yn ystafell y cyngor, a darllenwyd yr hyn a ysgrifennwyd yng ngŵydd pawb.

16. Yna dywedodd, “Galwch y llanciau er mwyn iddynt gael egluro'u hatebion.” Fe'u galwyd i mewn,

17. a dywedwyd wrthynt, “Eglurwch inni'r hyn a ysgrifennwyd gennych.”Dechreuodd y cyntaf, yr un a soniai am gryfder gwin,

18. drwy ddweud, “Foneddigion, ym mha ffordd y mae gwin gryfaf? Mae'n drysu meddwl pob un sy'n ei yfed.

19. Mae'n effeithio ar feddwl y brenin a'r amddifad, y caeth a'r rhydd, y tlawd a'r cyfoethog, yn yr un ffordd.

20. Mae'n troi pob meddwl at gyfeddach a llawenydd, nes anghofio pob tristwch a phob dyled.

21. Gwna i bawb ymddwyn fel cyfoethogion, heb falio am na brenin na phennaeth, ond siarad am bopeth fel petai'n filiwnydd.

22. Wrth yfed, nid ydynt yn malio am gyfeillachu â ffrindiau a theulu, a chyn bo hir tynnant eu cleddyfau.

23. Wedi sobri, nid ydynt yn cofio beth a wnaethant.

24. Foneddigion, onid gwin sydd gryfaf, gan ei fod yn gorfodi pobl i ymddwyn fel hyn?” Tawodd ar ôl dweud hyn.