Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ailddechrau'r Gwaith ar y Deml

1. Yn ail flwyddyn brenhiniaeth Dareius, proffwydodd y proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, yn enw'r Arglwydd, Duw Israel, i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem.

2. Yna cododd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josedec a dechrau adeiladu tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi'r Arglwydd gyda hwy yn eu cefnogi.

3. Yr un adeg daeth Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr atynt a gofyn iddynt,

4. “Pwy a roes ganiatâd i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a rhoi to arno a'i gwblhau ym mhob dim arall? A phwy yw'r adeiladwyr sy'n cyflawni'r gwaith hwn?”

5. Ond cafodd henuriaid yr Iddewon ffafr gan yr Arglwydd, a fu'n gofalu amdanynt yn y gaethglud,

6. ac ni rwystrwyd hwy rhag adeiladu yn y cyfnod rhwng anfon adroddiad amdanynt at Dareius a chael ei ddyfarniad arno.

7. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd ac a anfonodd Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, y swyddogion yn Syria a Phenice, at Dareius: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!

8. Bydded hyn oll yn hysbys i'n harglwydd y brenin: inni ymweld â thalaith Jwda a mynd i mewn i ddinas Jerwsalem; yno cawsom henuriaid yr Iddewon, a ddychwelodd o'r gaethglud,

9. yn adeiladu yn ninas Jerwsalem dŷ mawr newydd i'r Arglwydd o gerrig nadd drud, gyda choed wedi eu gosod yn y muriau;

10. y mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym a'r adeiladu'n llwyddo dan eu llaw, ac fe'i cwblheir â phob ysblander a gofal.

11. Yna gofynasom i'r henuriaid hyn, ‘Pwy a roes gennad i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a gosod y sylfeini hyn?’

12. Ein hamcan wrth eu holi oedd gallu cyflwyno i ti restr o'u gwŷr blaenllaw, ond pan ofynasom iddynt am restr o enwau eu harweinwyr,

13. eu hateb i ni oedd: ‘Gweision yr Arglwydd, creawdwr nef a daear, ydym ni.

14. Adeiladwyd y tŷ lawer o flynyddoedd yn ôl gan frenin mawr a nerthol yn Israel, a'i orffen ganddo.

15. Ond am i'n hynafiaid wrthryfela a phechu yn erbyn Arglwydd nefol Israel, rhoddodd ef hwy yn nwylo Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y Caldeaid.

16. Dymchwelwyd y tŷ a'i losgi, a chaethgludwyd y bobl i Fabilon.

17. Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus dros wlad Babilonia, rhoes y Brenin Cyrus gennad i adeiladu'r tŷ hwn.

18. Y llestri aur ac arian a ddygodd Nebuchadnesar o'r tŷ yn Jerwsalem a'u rhoi yn ei deml ei hun, cymerodd y Brenin Cyrus hwy drachefn o'r deml ym Mabilon a'u trosglwyddo i Sorobabel a Sanabassar y llywodraethwr.

19. Gorchmynnodd iddo gymryd yr holl lestri yma a'u gosod yn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu'r deml hon o eiddo'r Arglwydd ar ei hen safle.

20. Yna daeth y Sanabassar hwn a gosod sylfeini tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’

21. Felly, os dyna d'ewyllys, O frenin, chwilier yn archifau brenhinol ein harglwydd y brenin ym Mabilon,

22. ac os ceir bod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem wedi ei adeiladu â chydsyniad y Brenin Cyrus, ac os dyna ewyllys ein harglwydd y brenin, anfoner ei ddyfarniad ar y mater i ni.”

Ailddarganfod Gorchymyn y Brenin Cyrus

23. Yna gorchmynnodd y Brenin Dareius ymchwil yn yr archifau brenhinol a gedwid ym Mabilon. Ac yn Ecbatana, y gaer yn nhalaith Media, cafwyd un sgrôl, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:

24. “Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus, gorchmynnodd y Brenin Cyrus fod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem, lle'r aberthir â thân parhaus, i'w adeiladu:

25. ei uchder i fod yn drigain cufydd a'i led yn drigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig nadd ac un rhes o goed newydd lleol, a'r gost i'w dwyn gan drysorfa'r Brenin Cyrus;

26. hefyd fod llestri sanctaidd tŷ'r Arglwydd, yn aur ac yn arian, y rheini a ddygodd Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon, i'w dychwelyd i'r deml yn Jerwsalem a'u gosod yn y man lle'r oeddent o'r blaen.”

Dareius yn Gorchymyn i'r Gwaith Barhau

27. A gorchmynnodd Dareius i Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, a'r swyddogion a benodwyd yn Syria a Phenice, ofalu cadw draw o'r lle gan adael i Sorobabel, gwas yr Arglwydd a llywodraethwr Jwda, a henuriaid yr Iddewon, adeiladu tŷ'r Arglwydd ar ei hen safle.

28. “Yr wyf fi hefyd wedi gorchymyn,” meddai, “iddo gael ei adeiladu'n gyfan gwbl, a bod cydweithredu ewyllysgar â'r rhai yn Jwda a ddychwelodd o'r gaethglud hyd nes y cwblheir tŷ'r Arglwydd.

29. O dreth Celo-Syria a Phenice taler yn ddi-feth i'r dynion hyn, trwy law Sorobabel y llywodraethwr, at aberthau i'r Arglwydd: teirw, hyrddod ac ŵyn,

30. ac yn yr un modd wenith, halen, gwin ac olew yn gyson bob blwyddyn ac yn ddirwgnach yn ôl amcangyfrifon yr offeiriaid yn Jerwsalem o'n gwariant beunyddiol,

31. er mwyn offrymu diodoffrymau i'r Duw Goruchaf ar ran y brenin a'i blant, a gweddïo dros eu bywyd.”

32. Gorchmynnodd hefyd, os byddai i unrhyw un dorri neu ddiystyru unrhyw orchymyn a draethwyd neu a ysgrifennwyd yma, fod trawst i'w dynnu o'i dŷ, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei eiddo i fynd i'r brenin.

33. “A bydded i'r Arglwydd,” meddai, “sydd wedi gosod ei enw yno, ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n estyn llaw i beri rhwystr neu niwed i'r tŷ hwn o eiddo'r Arglwydd yn Jerwsalem.

34. Yr wyf fi, y Brenin Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn mai fel hyn yn fanwl y mae i fod.”