Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyrus yn Gorchymyn bod yr Iddewon i Ddychwelyd

1. Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Jeremeia,

2. cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia i gyhoeddi drwy ei deyrnas i gyd, yn llafar ac yn ysgrifenedig, fel hyn:

3. “Dyma a ddywed Cyrus brenin Persia: Arglwydd Israel, yr Arglwydd Goruchaf, a'm gwnaeth yn frenin ar yr holl fyd,

4. a rhoddodd gyfarwyddyd i mi i adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem yn Jwda.

5. Pwy bynnag ohonoch sy'n perthyn i'w genedl ef, bydded ei Arglwydd gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i adeiladu tŷ Arglwydd Israel—ef yw'r Arglwydd sy'n preswylio yn Jerwsalem.

6. Y rheini oll sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd, bydded i bobl eu hardal hwy eu helpu â rhoddion o aur ac arian,

7. â cheffylau a gwartheg, yn ogystal â phethau eraill a gyflwynwyd trwy adduned i deml yr Arglwydd yn Jerwsalem.”

8. Yna cododd pennau-teuluoedd llwythau Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl rai y cynhyrfodd yr Arglwydd eu hysbryd, i fynd i fyny i adeiladu tŷ i'r Arglwydd yn Jerwsalem,

9. a chynorthwyodd eu cymdogion hwy ym mhob peth, ag arian ac aur, ceffylau a gwartheg, a llawer iawn o'r rhoddion a gyflwynwyd trwy adduned gan lawer o bobl a roes eu bryd ar hynny.

10. Dug y Brenin Cyrus allan hefyd lestri sanctaidd yr Arglwydd, a gludodd Nebuchadnesar i ffwrdd o Jerwsalem a'u gosod yn nheml ei eilunod.

11. Wedi i Cyrus brenin Persia eu dwyn allan, fe'u rhoddodd i Mithridates ei drysorydd,

12. a thrwyddo ef fe'u trosglwyddwyd i Sanabassar llywodraethwr Jwdea.

13. Dyma gyfrif ohonynt: mil o gwpanau aur, mil o gwpanau arian, dau ddeg a naw o thuserau arian, tri deg o ffiolau aur, dwy fil pedwar cant a deg o rai arian, a mil o lestri eraill.

14. Trosglwyddwyd felly yr holl lestri aur ac arian, pum mil pedwar cant chwe deg a naw i gyd,

15. ac fe'u cludwyd yn ôl gan Sanabassar gyda'r bobl a ddychwelodd o'r gaethglud ym Mabilon i Jerwsalem.

Gwrthwynebu Ailadeiladu Jerwsalem

16. Ond yn amser Artaxerxes brenin Persia, dyma Beslemus, Mithridates, Tabelius, Rawmus, Beeltemus a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria ac mewn mannau eraill, yn ysgrifennu ato y llythyr canlynol yn erbyn y rhai oedd yn byw yn Jwda a Jerwsalem: “I'r Brenin Artaxerxes, ein harglwydd,

17. oddi wrth dy weision, Rawmus y cofnodydd, a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill y barnwyr o'u cyngor yn Celo-Syria a Phenice.

18. Bydded hysbys yn awr i'n harglwydd fod yr Iddewon a ddaeth i fyny oddi wrthych atom ni, ac a aeth i Jerwsalem, yn adeiladu'r ddinas wrthryfelgar a drwg honno, yn atgyweirio ei marchnadoedd a'i muriau, ac yn gosod sylfeini teml.

19. Yn awr os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, byddant nid yn unig yn gwrthod talu teyrnged, ond hefyd yn gwrthryfela yn erbyn brenhinoedd.

20. Oherwydd bod y gwaith ar y deml yn mynd yn ei flaen, dyma ni'n meddwl y byddai'n well i ni beidio ag anwybyddu'r fath sefyllfa,

21. ond ei hysbysu i'n harglwydd y brenin, er mwyn i archwiliad gael ei wneud, os yw'n dda gennyt, yn llyfrau dy hynafiaid.

22. Byddi'n darganfod yn y cofnodion yr hyn a ysgrifennwyd amdanynt, a chei wybod i'r ddinas hon fod yn wrthryfelgar a blino brenhinoedd a dinasoedd,

23. ac i'r Iddewon hwythau fod yn wrthryfelgar a chodi terfysg ynddi ers amser maith. Yn wir, dyna pam y difrodwyd y ddinas hon.

24. Felly yr ydym yn awr yn dy hysbysu, arglwydd frenin, os adeiledir y ddinas hon ac os ailgodir ei muriau, na fydd modd i ti ddychwelyd i Celo-Syria nac i Phenice.”

25. Yna ysgrifennodd y brenin mewn ateb i Rawmus y cofnodydd, Beeltemus, Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria, Syria a Phenice, fel hyn:

26. “Darllenais y llythyr a anfonasoch ataf. Ac o ganlyniad gorchmynnais chwilio, a darganfuwyd bod y ddinas hon ers amser maith wedi bod yn ymladd yn erbyn brenhinoedd,

27. a bod ei thrigolion wedi achosi terfysgoedd a rhyfeloedd, a hefyd bod brenhinoedd cryf a chreulon yn Jerwsalem wedi arglwyddiaethu ar Celo-Syria a Phenice a chodi treth arnynt.

28. Felly gorchmynnais yn awr rwystro'r bobl hynny rhag adeiladu'r ddinas, a gofalu na wneir dim pellach,

29. na gyrru ymlaen â'r fath bethau drwg i flino brenhinoedd.”

30. Yna, wedi i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen, cychwynnodd Rawmus a Samsaius yr ysgrifennydd a'u cyd-swyddogion ar frys i Jerwsalem gyda gwŷr meirch a mintai yn barod i ryfel, a dechrau rhwystro'r adeiladwyr. Peidiodd y gwaith o adeiladu'r deml yn Jerwsalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.