Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd Dafydd, “Hwn fydd tŷ'r ARGLWYDD Dduw, ac allor y poethoffrwm i Israel.”

Paratoi i Adeiladu'r Deml

2. Rhoddodd Dafydd orchymyn i gasglu'r dieithriaid oedd yng ngwlad Israel, a phenododd seiri maen i baratoi cerrig i adeiladu tŷ Dduw.

3. Fe baratôdd hefyd lawer o haearn i wneud hoelion ar gyfer drysau'r pyrth a'r cysylltiadau, a chymaint o bres fel nad oedd modd ei bwyso;

4. darparodd hefyd goed cedrwydd di-rif, oherwydd bod y Sidoniaid a'r Tyriaid wedi dod â llawer ohonynt iddo.

5. Ac meddai Dafydd, “Y mae Solomon fy mab yn ifanc a dibrofiad, a rhaid i'r tŷ a adeiledir i'r ARGLWYDD fod yn uwch, yn enwocach ac yn fwy gogoneddus na'r un arall trwy'r holl wledydd; felly dechreuaf baratoi ar ei gyfer.” Ac fe baratôdd Dafydd yn helaeth cyn iddo farw.

6. Yna galwodd ar Solomon ei fab, a'i orchymyn i adeiladu tŷ i ARGLWYDD Dduw Israel, gan ddweud wrtho,

7. “Fy mab, yr oeddwn â'm bryd ar adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw, ond daeth gair yr ARGLWYDD ataf gan ddweud,

8. ‘Yr wyt wedi tywallt llawer o waed ac ymladd brwydrau mawr; ni chei di adeiladu tŷ i mi, am iti dywallt llawer o waed ar y ddaear yn fy ngŵydd i.

9. Ond edrych, genir iti fab a fydd yn ŵr heddychlon, ac mi roddaf iddo lonydd oddi wrth yr holl elynion o'i amgylch.

10. Solomon fydd ei enw, a rhoddaf heddwch a thangnefedd i Israel yn ei oes ef. Ef fydd yn adeiladu tŷ i'm henw. Bydd ef yn fab i mi a minnau'n dad iddo yntau; gwnaf orsedd ei frenhiniaeth ar Israel yn gadarn am byth.’

11. Yn awr, fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, er mwyn i ti lwyddo wrth adeiladu tŷ'r ARGLWYDD dy Dduw fel y dywedodd ef amdanat.

12. Rhodded yr ARGLWYDD i ti hefyd ddoethineb a deall, pan rydd i ti awdurdod dros Israel, er mwyn iti gadw cyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw.

13. Yna, os cedwi'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn ag Israel, fe lwyddi. Bydd yn gryf a dewr; paid ag ofni na bod yn wangalon.

14. Edrych, er fy mod yn dlawd, rhoddais ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD gan mil o dalentau aur a miliwn o dalentau arian, a chymaint o bres a haearn fel nad oedd modd eu pwyso am fod cymaint ohonynt, a choed a cherrig yn ogystal. Ychwanega dithau atynt.

15. Y mae gennyt lawer iawn o weithwyr, yn naddwyr, seiri maen a seiri coed, ac eraill yn gallu gwneud pob math o waith;

16. a bydd yr aur, yr arian, y pres a'r haearn yn aneirif. Cod a gweithia, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi.”

17. Gorchmynnodd Dafydd i holl arweinwyr Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddweud,

18. “Onid yw'r ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? Onid yw wedi rhoi llonydd i chwi oddi wrth bawb o'ch cwmpas? Yn wir, y mae wedi rhoi pobl y wlad yn fy llaw, a darostyngwyd y wlad o flaen yr ARGLWYDD a'i bobl.

19. Yn awr ymrowch, galon ac enaid, i geisio'r ARGLWYDD eich Duw. Codwch ac adeiladwch gysegr yr ARGLWYDD Dduw, er mwyn dod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD a llestri cysegredig Duw i'r tŷ a adeiledir i enw'r ARGLWYDD.”