Ac meddai Dafydd, “Y mae Solomon fy mab yn ifanc a dibrofiad, a rhaid i'r tŷ a adeiledir i'r ARGLWYDD fod yn uwch, yn enwocach ac yn fwy gogoneddus na'r un arall trwy'r holl wledydd; felly dechreuaf baratoi ar ei gyfer.” Ac fe baratôdd Dafydd yn helaeth cyn iddo farw.