Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Neges Nathan i Ddafydd

1. Wedi i Ddafydd fynd i fyw i'w dŷ ei hun, dywedodd wrth y proffwyd Nathan, “Edrych yn awr, yr wyf fi'n byw mewn tŷ o gedrwydd, tra bo arch cyfamod yr ARGLWYDD mewn pabell.”

2. Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, “Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae Duw gyda thi.”

3. Ond y noson honno daeth gair Duw at Nathan, gan ddweud,

4. “Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni chei di adeiladu i mi dŷ i breswylio ynddo.

5. Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais Israel allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o babell i babell ac o un tabernacl i'r llall.

6. Ple bynnag y bûm yn teithio gyda holl Israel, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl, a gofyn, “Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?” ’

7. Felly dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.

8. Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear.

9. Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu yno heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt,

10. pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; darostyngaf dy holl elynion. Yr wyf yn dy hysbysu mai yr ARGLWYDD fydd yn adeiladu tŷ i ti.

11. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, ac yn amser iti farw, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu o'th feibion, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.

12. Ef fydd yn adeiladu tŷ i mi, a gwnaf finnau ei orsedd yn gadarn am byth.

13. Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi, ac ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth yr un oedd o'th flaen di.

14. Gosodaf ef yn fy nhŷ ac yn fy nheyrnas am byth; erys ei orsedd yn gadarn hyd byth.’ ”

15. Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.

Dafydd yn Datgan ei Ddiolch mewn Gweddi

16. Yna fe aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, “Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma?

17. Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Dduw, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a'm hystyried i'n llinach o ddynion dyrchafedig, O Arglwydd DDUW.

18. Beth rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt am anrhydeddu dy was, a thithau yn ei adnabod?

19. O ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy ewyllys dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hwn a hysbysu'r holl fawrion bethau.

20. O ARGLWYDD, ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti. Pa genedl arall ar y ddaear sydd fel dy bobl Israel?

21. Rhyddhaodd Duw hi i fod yn bobl iddo'i hun ac i ennill bri, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy trwy fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a brynaist o'r Aifft.

22. Gwnaethost dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.

23. Yn awr, O ARGLWYDD, bydded i'r addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu sefyll am byth, a gwna fel y dywedaist.

24. Bydded iddi sefyll fel y mawrheir dy enw hyd byth, ac y dywedir, ‘ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw ar Israel’; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.

25. Am i ti, O fy Nuw, ddatgelu i'th was y byddit yn adeiladu tŷ iddo, fe fentrodd dy was weddïo arnat.

26. Yn awr, O ARGLWYDD, ti sydd Dduw, ac fe addewaist ti y daioni hwn i'th was.

27. Felly'n awr, gwêl yn dda fendithio tŷ dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy ŵydd; am i ti, ARGLWYDD, ei fendithio, bendigedig fydd hyd byth.”