Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Trefn Filwrol a Sifil

1. Dyma nifer meibion Israel, yn bennau-teuluoedd a chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd a'u swyddogion, oedd yn gwasanaethu'r brenin yn y gwahanol adrannau fis ar y tro trwy gydol y flwyddyn: pedair mil ar hugain ymhob adran.

2. Jasobeam fab Sabdiel oedd yn gofalu am yr adran gyntaf am y mis cyntaf, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

3. Yr oedd ef o feibion Peres ac yn brif swyddog y llu am y mis cyntaf.

4. Dodai yr Ahohiad oedd dros adran yr ail fis, ac yn ei adran ef a Micloth y pennaeth yr oedd pedair mil ar hugain.

5. Benaia fab Jehoiada yr archoffeiriad oedd trydydd swyddog y llu, am y trydydd mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

6. Y Benaia hwn oedd yr arwr ymhlith y Deg ar Hugain, ac ef oedd yn gofalu amdanynt. Amisabad ei fab oedd dros ei adran ef.

7. Asahel brawd Joab oedd y pedwerydd, am y pedwerydd mis, a Sebadeia ei fab ar ei ôl; yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

8. Samuth yr Israhiad oedd y pumed swyddog, am y pumed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

9. Ira fab Icces y Tecoiad oedd y chweched, am y chweched mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

10. Heles y Peloniad, o feibion Effraim, oedd y seithfed, am y seithfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

11. Sibbechai yr Husathiad, un o'r Sarhiaid, oedd yr wythfed am yr wythfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

12. Abieser o Anathoth, un o'r Benjaminiaid, oedd y nawfed, am y nawfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

13. Maharai o Netoffa, un o'r Sarhiaid, oedd y degfed, am y degfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

14. Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim, oedd yr unfed ar ddeg, am yr unfed mis ar ddeg, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

15. Heldai y Netoffathiad o Othniel oedd y deuddegfed, am y deuddegfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

Swyddogion Llwythau Israel

16. Prif swyddogion llwythau Israel: Elieser fab Sichri dros y Reubeniaid; Seffatia fab Maacha dros y Simeoniaid;

17. Hasabeia fab Cemual dros y Lefiaid; Sadoc dros yr Aaroniaid;

18. Elihu, un o frodyr Dafydd, dros Jwda; Omri fab Michael dros Issachar;

19. Ismaia fab Obadeia dros Sabulon; Jerimoth fab Asriel dros Nafftali;

20. Hosea fab Asaseia dros feibion Effraim; Joel fab Pedaia dros hanner llwyth Manasse;

21. Ido fab Sechareia dros hanner llwyth Manasse yn Gilead; Jaasiel fab Abner dros Benjamin;

22. Asarel fab Jeroham dros Dan. Y rhain oedd swyddogion llwythau Israel.

23. Ni restrodd Dafydd y rhai ugain mlwydd oed a thanodd, am fod yr ARGLWYDD wedi addo gwneud Israel mor niferus â sêr y nefoedd.

24. Fe ddechreuodd Joab fab Serfia wneud cyfrifiad, ond nis gorffennodd. O achos hyn fe ddaeth llid ar Israel, a dyna pam na cheir y cyfanswm yng nghronicl y Brenin Dafydd.

Swyddogion Trysordai'r Brenin

25. Dros drysordai'r brenin: Asmafeth fab Abdiel; dros y trysordai yn y wlad, y dinasoedd, y pentrefi a'r caerau: Jehonathan fab Usseia;

26. dros y rhai oedd yn gweithio ar y tir: Esri fab Celub;

27. dros y gwinllannoedd: Simei y Ramathiad; dros gynnyrch y gwinllannoedd yn y selerau gwin: Sabdi y Siffniad;

28. dros yr olewydd a'r sycamorwydd yn y Seffela: Baal-hanan y Gederiad; dros y selerau olew: Joas;

29. dros yr ychen yn pori yn Saron: Sitrai y Saroniad; dros yr ychen yn y dyffrynnoedd: Saffat fab Adlai;

30. dros y camelod: Obil yr Ismaeliad; dros yr asynnod: Jehdeia y Moronothiad; dros y defaid: Jasis yr Hageriad.

31. Dyma'r swyddogion oedd yn gofalu am eiddo'r Brenin Dafydd.

Cynghorwyr Personol Dafydd

32. Jehonathan, ewythr Dafydd, cynghorwr ac ysgrifennydd deallus, a Jehiel fab Hachmoni oedd yn gofalu am feibion y brenin.

33. Yr oedd Ahitoffel yn gynghorwr i'r brenin, a Husai yr Arciad yn gyfaill y brenin.

34. Dilynwyd Ahitoffel gan Jehoiada fab Benaia, ac Abiathar. Joab oedd cadfridog byddin y brenin.