Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cerddorion y Deml

1. Dewisodd Dafydd a'r swyddogion feibion Asaff, Heman a Jeduthun ar gyfer y gwaith o broffwydo â thelynau, nablau a symbalau. Dyma restr o'r dynion a etholwyd ar gyfer y gwaith.

2. O feibion Asaff: Saccur, Joseff, Nethaneia ac Asarela. Yr oedd meibion Asaff o dan gyfarwyddyd Asaff, a oedd yn proffwydo mewn ufudd-dod i'r brenin.

3. O Jeduthun, meibion Jeduthun: Gedaleia, Seri, Jesaia, Simei, Hasabeia a Matitheia, chwech, o dan gyfarwyddyd eu tad Jeduthun, a oedd yn proffwydo ar y delyn er mawl a chlod i'r ARGLWYDD.

4. O Heman, meibion Heman: Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-eser, Josbecasa, Malothi, Hothir a Mahasioth.

5. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Heman, gweledydd y brenin, gan fod Duw wedi addo ei ddyrchafu, ac wedi rhoi iddo bedwar ar ddeg o feibion a thair merch.

6. Yr oedd y rhain i gyd o dan gyfarwyddyd eu tad yn canu yn nhŷ'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, tra oedd Asaff, Jeduthun a Heman o dan gyfarwyddyd y brenin.

7. Y cyfanrif, gan gynnwys eu brodyr a oedd wedi eu hyfforddi sut i ganu i'r ARGLWYDD ac wedi meistroli'r grefft, oedd dau gant wyth deg ac wyth.

8. Bwriasant goelbrennau ynglŷn â'u dyletswyddau, ifanc a hen, athro a disgybl fel ei gilydd.

9. Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Joseff yr Asaffiad, ef a'i feibion a'i frodyr, deuddeg. Yr ail ar Gedaleia, ef a'i frodyr a'i feibion, deuddeg.

10. Y trydydd ar Saccur, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

11. Y pedwerydd ar Isri, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

12. Y pumed ar Nethaneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

13. Y chweched ar Bucceia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

14. Y seithfed ar Jesarela, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

15. Yr wythfed ar Jesaia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

16. Y nawfed ar Mataneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

17. Y degfed ar Simei, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

18. Yr unfed ar ddeg ar Asareel, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

19. Y deuddegfed ar Hasabeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

20. Y trydydd ar ddeg ar Subael, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

21. Y pedwerydd ar ddeg ar Matitheia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

22. Y pymthegfed ar Jerimoth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

23. Yr unfed ar bymtheg ar Hananeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

24. Yr ail ar bymtheg ar Josbecasa, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

25. Y deunawfed ar Hanani, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

26. Y pedwerydd ar bymtheg ar Malothi, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

27. Yr ugeinfed ar Eliatha, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

28. Yr unfed ar hugain ar Hothir, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

29. Yr ail ar hugain ar Gidalti, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

30. Y trydydd ar hugain ar Mahasioth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

31. Y pedwerydd ar hugain ar Romamti-eser, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.