Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dafydd yn Gorchfygu'r Ammoniaid a'r Syriaid

1. Wedi hyn bu farw Nahas brenin yr Ammoniaid, a daeth ei fab yn frenin yn ei le.

2. Dywedodd Dafydd, “Gwnaf garedigrwydd â Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad â mi.” Felly anfonodd negeswyr i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid at Hanun i'w gysuro,

3. dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth Hanun, “A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r wlad a'i hysbïo a'i goresgyn y daeth ei weision atat?”

4. Yna cymerodd Hanun weision Dafydd a'u heillio, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon hwy ymaith.

5. Pan ddywedwyd wrth Ddafydd am y dynion, fe anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr arnynt, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio â dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu.

6. Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd Hanun a'r Ammoniaid fil o dalentau arian i gyflogi cerbydau a marchogion o Mesopotamia, Syria-maacha a Soba.

7. Cyflogasant ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, yn ogystal â brenin Maacha a'i fyddin, a daethant i wersyllu o flaen Medeba. Ymgasglodd yr Ammoniaid hefyd o'u dinasoedd a dod allan i ryfel.

8. Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr.

9. Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, ac yr oedd y brenhinoedd, a oedd wedi dod, ar eu pennau eu hunain mewn tir agored.

10. Pan welodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl, dewisodd wŷr dethol o fyddin Israel, a'u trefnu mewn rhengoedd i wynebu'r Syriaid.

11. Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a safasant yn rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.

12. A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ac os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.

13. Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg.”

14. Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen.

15. Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai ei frawd, a mynd i'r ddinas. Yna dychwelodd Joab i Jerwsalem.

16. Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, anfonasant negeswyr i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, gyda Sobach, pencapten byddin Hadadeser, yn eu harwain.

17. Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod atynt a sefyll yn rhengoedd yn eu herbyn. Trefnodd rengoedd yn erbyn y Syriaid, a brwydrasant hwythau yn ei erbyn.

18. Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith mil o wŷr cerbyd a deugain mil o wŷr traed, a hefyd Sobach y pencapten.

19. Pan welodd gweision Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch â Dafydd a phlygu i'w awdurdod. Wedi hyn yr oedd y Syriaid yn anfodlon rhoi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.