Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Dymchwel y Gedrwydden

1. Ar y dydd cyntaf o'r trydydd mis yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;

2. “Fab dyn, dywed wrth Pharo brenin yr Aifft ac wrth ei finteioedd,‘I bwy yr wyt yn debyg yn dy fawredd?

3. Edrych ar Asyria; yr oedd fel cedrwydden yn Lebanon,ac iddi gangen brydferth yn bwrw cysgod dros y goedwig,yn tyfu'n uchel, a'i brig yn uwch na'r cangau trwchus.

4. Yr oedd dyfroedd yn ei chyfnerthu a'r dyfnder yn peri iddi dyfu,a'u nentydd yn llifo o amgylch ei gwreiddiau,ac yn ffrydio'n aberoedd i holl goed y maes.

5. Felly tyfodd yn uwch na holl goed y maes;yr oedd ei cheinciau'n ymestyn a'i changau'n lledaenu,am fod digon o ddŵr yn y sianelau.

6. Yr oedd holl adar y nefoedd yn nythu yn ei cheinciau,a'r holl anifeiliaid gwylltion yn epilio dan ei changau,a'r holl genhedloedd mawrion yn byw yn ei chysgod.

7. Yr oedd ei mawredd yn brydferth, a'i cheinciau'n ymestyn,oherwydd yr oedd ei gwreiddiau'n cyrraedd at ddigon o ddŵr.

8. Ni allai cedrwydd o ardd Duw gystadlu â hi,ac nid oedd y pinwydd yn cymharu o ran ceinciau;nid oedd y ffawydd yn debyg iddi o ran cangau,ac ni allai'r un goeden o ardd Duw gystadlu â hi o ran prydferthwch.

9. Gwneuthum hi'n brydferth â digon o ganghennau,nes bod holl goed Eden, gardd Duw, yn cenfigennu wrthi.

10. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddi dyfu'n uchel, gan godi ei phen yn uwch na'r cangau ac ymfalchïo yn ei huchder,

11. rhoddais hi yn llaw rheolwr y cenhedloedd, iddo wneud â hi yn ôl ei drygioni. Bwriais hi o'r neilltu.

12. Estroniaid, y greulonaf o'r cenhedloedd, a'i torrodd i lawr a'i gadael. Syrthiodd ei changhennau ar y mynyddoedd ac i'r holl ddyffrynnoedd; yr oedd ei changau wedi eu torri yn holl gilfachau'r tir; daeth holl genhedloedd y ddaear allan o'i chysgod a'i gadael.

13. Aeth holl adar y nefoedd i fyw ar ei boncyff, a'r holl anifeiliaid gwylltion i'w brigau.

14. Oherwydd hyn, nid yw'r holl goed eraill wrth y dyfroedd i dyfu'n uchel na chodi eu pennau'n uwch na'r cangau; nid ydynt, oherwydd bod digon o ddŵr, i sefyll mor uchel; y maent i gyd wedi eu tynghedu i farwolaeth yn y tir isod, gyda meidrolion, ymhlith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

15. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd yr aed â hi i lawr i Sheol, gorchuddiais y dyfnder â galar drosti; ateliais ei hafonydd a dal yn ôl ei digonedd o ddŵr. O'i herwydd hi gwisgais Lebanon â phrudd-der, a chrinodd holl goed y maes.

16. Gwneuthum i'r cenhedloedd grynu gan sŵn ei chwymp, pan ddygais hi i lawr i Sheol gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; felly cysurir yn y tir isod holl goed Eden sy'n cael eu dyfrhau, y rhai gorau a mwyaf dewisol yn Lebanon.

17. Aethant hwythau hefyd gyda hi i lawr i Sheol at y rhai a laddwyd â'r cleddyf; gwasgarwyd y rhai oedd yn byw yn ei chysgod ymhlith y cenhedloedd.

18. Prun o goed Eden sy'n debyg i ti mewn gogoniant a mawredd? Ond fe'th ddygir dithau hefyd gyda choed Eden i'r tir isod, a byddi'n gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf. Dyna Pharo a'i holl finteioedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”