Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Pob Un yn ôl ei Bechod ei Hun

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Beth a olygwch wrth ddefnyddio'r ddihareb hon am wlad Israel:“ ‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,ond ar ddannedd y plant y mae dincod’?

3. “Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “ni ddefnyddiwch eto'r ddihareb hon yn Israel.

4. I mi y perthyn pob enaid byw, y rhiant a'r plentyn fel ei gilydd; a'r sawl sy'n pechu fydd farw.

5. “Bwriwch fod dyn cyfiawn sy'n gwneud barn a chyfiawnder.

6. Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tŷ Israel; nid yw'n halogi gwraig ei gymydog, nac yn mynd at wraig yn ystod ei misglwyf.

7. Nid yw'n gorthrymu neb, ond y mae'n dychwelyd gwystl y dyledwr, ac nid yw'n lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

8. Nid yw'n rhoi ei arian ar log nac yn derbyn elw; y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac yn gwneud barn gywir rhwng dynion a'i gilydd.

9. Y mae'n dilyn fy neddfau ac yn cadw'n gywir fy marnau; y mae'n ddyn cyfiawn, a bydd yn sicr o fyw,” medd yr Arglwydd DDUW.

10. “Bwriwch fod ganddo fab sy'n treisio ac yn tywallt gwaed, ac yn gwneud un o'r pethau hyn,

11. er na wnaeth ei dad yr un ohonynt. Y mae'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, ac yn halogi gwraig ei gymydog;

12. y mae'n gorthrymu'r tlawd a'r anghenus ac yn lladrata; nid yw'n dychwelyd gwystl y dyledwr; y mae'n edrych ar eilunod ac yn gwneud ffieidd-dra;

13. y mae'n rhoi ei arian ar log ac yn derbyn elw. A fydd ef fyw? Na fydd! Am iddo wneud yr holl bethau ffiaidd hyn fe fydd yn sicr o farw, a bydd ei waed arno ef ei hun.

14. “Bwriwch fod gan hwnnw fab sy'n gweld yr holl ddrygioni a wnaeth ei dad; ac wedi iddo weld, nid yw'n ymddwyn felly.

15. Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tŷ Israel, nac yn halogi gwraig ei gymydog.

16. Nid yw'n gorthrymu neb, nac yn gofyn gwystl gan ddyledwr, nac yn lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

17. Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.

18. Bydd ei dad farw o achos ei droseddau ei hun, am iddo elwa trwy drais, lladrata oddi ar berthynas, a gwneud yr hyn nad oedd yn iawn ymysg ei bobl.

19. “Eto fe ofynnwch, ‘Pam nad yw'r mab yn euog am drosedd y tad?’ Am i'r mab wneud barn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau ac ufuddhau iddynt, bydd yn sicr o fyw.

20. Y sawl sy'n pechu a fydd farw. Ni fydd y mab yn euog am drosedd y tad, na'r tad am drosedd y mab; fe dderbyn y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder, a'r drygionus yn ôl ei ddrygioni.

21. “Os bydd y drygionus yn troi oddi wrth yr holl ddrygioni a wnaeth, yn cadw fy holl ddeddfau, ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

22. Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i droseddau, ond oherwydd y cyfiawnder a wnaeth bydd fyw.

23. A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?” medd yr Arglwydd DDUW. “Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?

24. Ond os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder, ac yn gwneud drygioni a'r holl bethau ffiaidd y mae'r dyn drygionus yn eu gwneud, a fydd ef fyw? Ni chofir yr un o'r pethau cyfiawn a wnaeth, ond am iddo fod yn anffyddlon a chyflawni pechodau, bydd farw.

25. “Eto fe ddywedwch, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.’ Clywch hyn, dŷ Israel: A yw fy ffordd i yn anghyfiawn? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghyfiawn?

26. Os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, bydd farw o'i achos; am y drygioni a wnaeth bydd farw.

27. Ond os bydd dyn drwg yn troi o'r drygioni a wnaeth ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn arbed ei fywyd.

28. Am iddo weld, a throi oddi wrth yr holl droseddau y bu'n eu gwneud, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

29. Ac eto fe ddywed tŷ Israel, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.’ A yw fy ffyrdd i yn anghywir, dŷ Israel? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghywir?

30. “Felly, dŷ Israel, fe'ch barnaf bob un am ei ffordd ei hun,” medd yr Arglwydd DDUW. “Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich holl wrthryfel, fel na fydd drygioni yn dramgwydd i chwi.

31. Bwriwch ymaith yr holl droseddau a wnaethoch, a mynnwch galon newydd ac ysbryd newydd; pam y byddwch farw, dŷ Israel?

32. Nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth neb,” medd yr Arglwydd DDUW; “edifarhewch a byddwch fyw.”