Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Proffwydo yn erbyn Ammon

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, tro dy wyneb at yr Ammoniaid a phroffwyda yn eu herbyn.

3. Dywed wrthynt, ‘Gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti ddweud, “Aha!” pan halogwyd fy nghysegr a phan anrheithiwyd tir Israel a phan ddygwyd tŷ Jwda i gaethglud,

4. am hynny fe'th rof yn eiddo i bobl y dwyrain. Gosodant hwy eu gwersylloedd, a chodi eu pebyll yn dy ganol; byddant yn bwyta dy gnydau ac yn yfed dy laeth.

5. Fe wnaf Rabba yn borfa i gamelod ac Ammon yn gynefin defaid, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti guro dwylo a tharo traed a llawenhau â holl falais dy galon yn erbyn Israel,

7. am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

Proffwydo yn erbyn Moab

8. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Moab a Seir ddweud, “Edrych, aeth tŷ Jwda fel yr holl genhedloedd”,

9. am hynny fe ddifethaf derfynau Moab, sef dinasoedd y gororau, Beth-jesimoth, Baal-meon a Ciriathaim, rhai gorau'r wlad.

10. Rhof Moab gyda'r Ammoniaid yn eiddo i bobl y dwyrain, fel na bydd i'r Ammoniaid gael eu cofio ymhlith y cenhedloedd,

11. a gweithredaf farn ar Moab. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

Proffwydo yn erbyn Edom

12. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Edom ddial ar dŷ Jwda, a bod yn euog iawn trwy wneud hynny,

13. am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn Edom, a thorri ymaith ohoni ddyn ac anifail, a'i gwneud yn anrhaith; o Teman hyd Dedan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf.

14. Byddaf yn dial ar Edom trwy fy mhobl Israel, ac fe wnânt ag Edom yn ôl fy nicter a'm llid. Yna byddant yn gwybod mai dyma fy nialedd, medd yr Arglwydd DDUW.

Proffwydo yn erbyn y Philistiaid

15. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r Philistiaid weithredu'n ddialgar, a dial â malais yn eu calonnau, a dinistrio o achos hen gasineb,

16. am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn y Philistiaid, ac fe dorraf ymaith y Cerethiaid, a dinistrio'r rhai sy'n weddill ar hyd yr arfordir.

17. Dygaf ddialedd mawr arnynt a'u cosbi yn fy nicter. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn dial arnynt.’ ”