Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Proffwydo yn erbyn Mynyddoedd Israel

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, tro dy wyneb at fynyddoedd Israel, a phroffwyda wrthynt,

3. a dweud, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd: Yr wyf fi'n dod yn eich erbyn â'r cleddyf, a dinistriaf eich uchelfeydd.

4. Anrheithir eich allorau a dryllir eich allorau arogldarth, a thaflaf eich clwyfedigion o flaen eich eilunod.

5. Bwriaf gyrff pobl Israel o flaen eu heilunod, a gwasgaraf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

6. Lle bynnag y byddwch yn byw, fe anrheithir y dinasoedd ac fe fwrir i lawr yr uchelfeydd, fel bod eich allorau wedi eu hanrheithio a'u dinistrio, eich eilunod wedi eu dryllio a'u malurio, eich allorau arogldarth wedi eu chwalu a'ch gwaith wedi ei ddileu.

7. Bydd clwyfedigion yn syrthio yn eich mysg, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

8. “ ‘Ond gadawaf weddill; oherwydd bydd rhai ohonoch yn dianc rhag y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgerir chwi trwy'r gwledydd.

9. Ymysg y cenhedloedd lle caethgludwyd hwy, bydd y rhai a ddihangodd yn fy nghofio—fel y drylliwyd fi gan eu calonnau godinebus pan oeddent yn troi oddi wrthyf, a chan eu llygaid pan oeddent yn godinebu gydag eilunod; yna byddant yn eu casáu eu hunain am y drygioni a wnaethant ac am eu holl ffieidd-dra.

10. A chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; nid yn ofer y dywedais y byddwn yn gwneud y drwg hwn iddynt.

11. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cura dy ddwylo a chura â'th draed, a dywed “Och!” o achos holl ffieidd-dra drygionus tŷ Israel, oherwydd fe syrthiant trwy gleddyf a newyn a haint.

12. Bydd yr un sydd ymhell yn marw o haint, yr un agos yn syrthio trwy'r cleddyf, a'r un a adawyd ac a arbedwyd yn marw o newyn; ac yna fe gyflawnaf fy llid yn eu herbyn.

13. A chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fydd eu clwyfedigion ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau ar bob bryn uchel, ar holl bennau'r mynyddoedd, dan bob pren gwyrddlas a than bob derwen ddeiliog lle buont yn offrymu arogl peraidd i'w holl eilunod.

14. Byddaf yn estyn fy llaw yn eu herbyn, a gwnaf y tir yn anrhaith diffaith o'r anialwch hyd Dibla, lle bynnag y maent yn byw; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”