Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Ffieidd-dra Tŷ Israel

1. Ar y pumed dydd o'r chweched mis yn y chweched flwyddyn, a minnau'n eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd o'm blaen, daeth llaw yr Arglwydd DDUW arnaf yno.

2. Ac wrth imi edrych, gwelais ffurf oedd o ran ymddangosiad yn ddynol. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, yr oedd yn dân, ac o'i lwynau i fyny yr oedd yn debyg i efydd gloyw a disglair.

3. Estynnodd allan yr hyn a edrychai fel llaw, a'm cymryd gerfydd gwallt fy mhen. Cododd yr ysbryd fi rhwng daear a nefoedd, a mynd â mi mewn gweledigaethau Duw i Jerwsalem, at ddrws porth y gogledd i'r cyntedd mewnol, lle safai delw eiddigedd, sy'n achosi eiddigedd.

4. Ac yno yr oedd gogoniant Duw Israel, fel yn y weledigaeth a gefais yn y gwastadedd.

5. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cod dy olygon i gyfeiriad y gogledd.” Codais fy ngolygon i gyfeiriad y gogledd, a gwelais yno, i'r gogledd o borth yr allor, yn y fynedfa, y ddelw hon o eiddigedd.

6. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a weli di beth y maent yn ei wneud, y pethau cwbl ffiaidd y mae tŷ Israel yn eu gwneud yma, i'm pellhau oddi wrth fy nghysegr? Ond fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd.”

7. Yna aeth â mi at ddrws y cyntedd, ac wrth imi edrych gwelais dwll yn y mur.

8. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cloddia i'r mur.” Cloddiais i'r mur, a gwelais ddrws yno.

9. Dywedodd wrthyf, “Dos i mewn, ac edrych ar y ffieidd-dra drygionus y maent yn ei wneud yno.”

10. Euthum i mewn, ac wrth imi edrych gwelais bob math o ymlusgiaid, anifeiliaid atgas, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu cerfio ym mhobman ar y mur.

11. Yr oedd deg a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll o'u blaenau, a Jaasaneia fab Saffan yn sefyll yn eu canol; yr oedd thuser yn llaw pob un ohonynt, a chwmwl persawrus o arogldarth yn codi.

12. A dywedodd wrthyf, “A welaist ti, fab dyn, beth y mae henuriaid tŷ Israel yn ei wneud yn y tywyllwch, bob un ohonynt yn ystafell ei gerfddelw? Fe ddywedant, ‘Nid yw'r ARGLWYDD yn ein gweld; gadawodd yr ARGLWYDD y wlad.’ ”

13. Dywedodd hefyd, “Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd y maent yn eu gwneud.”

14. Yna aeth â mi at ddrws porth y gogledd i dŷ'r ARGLWYDD, a gwelais yno wragedd yn eistedd i wylo am Tammus.

15. A dywedodd wrthyf, “A welaist ti hyn, fab dyn? Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd na'r rhain.”

16. Yna aeth â mi i gyntedd mewnol tŷ'r ARGLWYDD, ac yno wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y cyntedd a'r allor, yr oedd tua phump ar hugain o ddynion; yr oedd eu cefnau at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain, ac yr oeddent yn ymgrymu i'r haul yn y dwyrain.

17. Dywedodd wrthyf, “A welaist ti hyn, fab dyn? Ai bychan o beth yw bod tŷ Jwda yn gwneud y pethau ffiaidd a wnânt yma? Ond y maent hefyd yn llenwi'r ddaear â thrais ac yn cythruddo rhagor arnaf; edrych arnynt yn gosod y brigyn wrth eu trwynau.

18. Byddaf fi'n gweithredu mewn llid tuag atynt; ni fyddaf yn tosturio nac yn trugarhau. Er iddynt weiddi'n uchel yn fy nghlustiau, ni wrandawaf arnynt.”