Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Proffwydo yn erbyn Brenin Tyrus

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Ym malchder dy galon fe ddywedaist,“Yr wyf yn dduw,ac yn eistedd ar orsedd y duwiauyng nghanol y môr.”Ond dyn wyt, ac nid duw,er iti dybio dy fod fel duw—

3. yn ddoethach yn wir na Daniel,heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.

4. Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,a chael aur ac arian i'th ystordai.

5. Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth,ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.’

6. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,

7. fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn,y fwyaf didostur o'r cenhedloedd;tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb,a thrywanu d'ogoniant.

8. Bwriant di i lawr i'r pwll,a byddi farw o'th glwyfauyn nyfnderoedd y môr.

9. A ddywedi, “Duw wyf fi,”yng ngŵydd y rhai sy'n dy ladd?Dyn wyt, ac nid duw,yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu.

10. Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededigtrwy ddwylo estroniaid.Myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

12. “Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd,yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch.

13. Yr oeddit yn Eden, gardd Duw,a phob carreg werthfawr yn d'addurno—rhuddem, topas ac emrallt,eurfaen, onyx a iasbis,saffir, glasfaen a beryl,ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur;ar ddydd dy eni y paratowyd hwy.

14. Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio;yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw,ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd.

15. Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni,nes darganfod drygioni ynot.

16. Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais,ac fe bechaist.Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw,ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol dio fysg y cerrig tanllyd.

17. Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch,a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant;lluchiais di i'r llawr,a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.

18. Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach,fe halogaist dy gysegrleoedd;felly gwneuthum i dân ddod allan ohonot a'th ysu,a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngŵydd pawb oedd yn edrych.

19. Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.’ ”

Proffwydo yn erbyn Sidon

20. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

21. “Fab dyn, tro dy wyneb tua Sidon a phroffwyda yn ei herbyn,

22. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon,ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol.Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan weithredaf fy nghosb arniac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi.

23. Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd;syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch.Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

24. “Ni fydd gan dŷ Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.

25. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan gasglaf dŷ Israel o fysg y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddynt yng ngŵydd y cenhedloedd, cânt fyw yn eu tir eu hunain, a roddais i'm gwas Jacob.

26. Byddant yn byw'n ddiogel yno, yn codi tai ac yn plannu gwinllannoedd; byddant yn byw'n ddiogel pan fyddaf fi'n gweithredu barn ar yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.’ ”