Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti oll i nennau y tai?

2. Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf, na'th feirw mewn rhyfel.

3. Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell.

4. Am hynny y dywedais, Edrychwch oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl.

5. Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd Dduw y lluoedd, yng nglyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i'r mynydd.

6. Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch; Cir hefyd a ddinoethodd y darian.

7. A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a'r gwŷr meirch a ymfyddinant tua'r porth.

8. Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ'r goedwig.

9. A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, mai aml oeddynt; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf.

10. Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau'r mur.

11. A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a'i lluniodd ef er ys talm.

12. A'r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain:

13. Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw.

14. A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

15. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed,

16. Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig?

17. Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a'th wisg di.

18. Gan dreiglo y'th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr.

19. Yna y'th yrraf o'th sefyllfa, ac o'th sefyllfa y dinistria efe di.

20. Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia:

21. A'th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â'th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda.

22. Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro.

23. A mi a'i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad.

24. Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad, hil ac epil; yr holl fân lestri; o'r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd.

25. Yn y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni; canys yr Arglwydd a'i dywedodd.