Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi.

2. Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a'u dychryno.

3. A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd.

4. Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha.

5. Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â'i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.

6. Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel.

7. Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a'i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:

8. Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na'r llwyni, na'r delwau.

9. Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a'r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd‐dra.

10. Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr.

11. Y dydd y gwnei i'th blanhigyn dyfu, a'r bore y gwnei i'th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.

12. Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.

13. Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a'u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt.

14. Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a'n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a'n hysbeiliant ni.