Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr anialwch a'r anghyfanheddle a lawenychant o'u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.

2. Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr Arglwydd, a godidowgrwydd ein Duw ni.

3. Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid.

4. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie, Duw â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a'ch achub chwi.

5. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.

6. Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan: canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.

7. Y crastir hefyd fydd yn llyn, a'r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a'u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn.

8. Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig nid â ar hyd‐ddi; canys hi a fydd i'r rhai hynny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant.

9. Ni bydd yno lew, a bwystfil gormesol ni ddring iddi, ac nis ceir yno; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno.

10. A gwaredigion yr Arglwydd a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion â chaniadau, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.