Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat.

2. Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a'r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd, a'i ogoniant a welir arnat.

3. Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.

4. Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a'th ferched a fegir wrth dy ystlys.

5. Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.

6. Lliaws y camelod a'th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr Arglwydd a fynegant.

7. Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a'th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant.

8. Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomennod i'w ffenestri?

9. Yn ddiau yr ynysoedd a'm disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a'u haur gyda hwynt, i enw yr Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.

10. A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a'u brenhinoedd a'th wasanaethant; canys yn fy nig y'th drewais, ac o'm hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.

11. Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.

12. Canys y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di, a ddifethir; a'r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.

13. Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.

14. A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a'r rhai oll a'th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel.

15. Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i'r holl genedlaethau.

16. Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a'th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.

17. Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a'th drethwyr yn gyfiawn.

18. Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.

19. Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th Dduw yn ogoniant i ti.

20. Ni fachluda dy haul mwyach, a'th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.

21. Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y'm gogonedder.

22. Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.