Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae y rhai a ddisgynnant i'r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd.

2. Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd.

3. Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a'u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr Arglwydd ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant.

4. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Megis y rhua hen lew a'r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef.

5. Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.

6. Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho.

7. Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

8. A'r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a'i difa ef: ac efe a ffy rhag y cleddyf, a'i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth.

9. Ac efe a â i'w graig rhag ofn; a'i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr Arglwydd, yr hwn y mae ei dân yn Seion, a'i ffwrn yn Jerwsalem.