Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a'i odre yn llenwi y deml.

2. Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.

3. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o'i ogoniant ef.

4. A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a'r tŷ a lanwyd gan fwg.

5. Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd.

6. Yna yr ehedodd ataf un o'r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel:

7. Ac a'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â'th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.

8. Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.

9. Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch.

10. Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon, a dychwelyd, a'u meddyginiaethu.

11. Yna y dywedais, Pa hyd, Arglwydd? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a'r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,

12. Ac i'r Arglwydd bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad.

13. Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a'r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.