Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem.

2. A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a'r holl genhedloedd a ddylifant ato.

3. A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.

4. Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

5. Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.

6. Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o'r dwyrain, a'u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.

7. A'u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a'u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau.

8. Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:

9. A'r gwrêng sydd yn ymgrymu, a'r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.

10. Dos i'r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef.

11. Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.

12. Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:

13. Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,

14. Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,

15. Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn,

16. Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.

17. Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.

18. A'r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.

19. A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.

20. Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i'w haddoli, i'r wadd ac i'r ystlumod:

21. I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.

22. Peidiwch chwithau â'r dyn yr hwn sydd â'i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?