1. Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, arweiniodd Joab y fyddin allan a distrywio Ammon a gosod Rabba dan warchae; ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Trawodd Joab Rabba a'i dinistrio.
2. Yna cymerodd Dafydd goron eu brenin oddi ar ei ben a chael ei bod yn pwyso talent o aur, a bod gem gwerthfawr ynddi; fe'i rhoed ar ben Dafydd.
3. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail, ac aeth â'r bobl oedd ynddi ymaith a'u gosod i lafurio â llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un modd â holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.
4. Ar ôl hynny bu rhyfel yn erbyn y Philistiaid yn Geser. Y tro hwnnw lladdwyd Sippai, un o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad.
5. A bu rhyfel eilwaith yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Lahmi, brawd Goliath o Gath, gan Elhanan fab Jair; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.
6. Pan fu rhyfel eto yn Gath, yr oedd yno gawr o ddyn gyda chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.
7. Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan fab Simei, brawd Dafydd.
8. Yr oedd y rhain yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.