Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 8 beibl.net 2015 (BNET)

Cig wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd

1. I droi at eich cwestiwn am gig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu.

2. Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd.

3. Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.

4. Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.”

5. Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill),

6. dŷn ni'n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy'r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni'n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod trwyddo, a'r un sy'n rhoi bywyd i ni.

7. Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi ei aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan.

8. “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith.

9. Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu.

10. Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau?

11. Felly bydd y crediniwr sy'n ansicr yn gweithredu'n groes i'w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di'n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw!

12. Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia.

13. Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.