Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 12 beibl.net 2015 (BNET)

Doniau Ysbrydol

1. Nawr, wrth droi at beth sy'n dod o'r Ysbryd, dw i eisiau i chi ddeall ffrindiau.

2. Pan roeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud.

3. Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond trwy'r Ysbryd Glân.

4. Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy'n rhoi pob un.

5. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd.

6. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd.

7. Ac mae'r Ysbryd i'w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall.

8. Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd.

9. Mae un arall yn cael ffydd, drwy'r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy'r un Ysbryd.

10. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny.

11. Yr un Ysbryd sydd ar waith trwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i'w roi i bob un.

Un corff gyda rhannau gwahanol

12. Mae'r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae'r holl rannau gwahanol gyda'i gilydd yn gwneud un corff. Dyna'n union sut mae hi gyda phobl y Meseia.

13. Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd.

14. Dydy'r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau.

15. Petai troed yn dweud “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim!

16. Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na!

17. Fyddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A petai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli?

18. Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel oedd e'n gweld yn dda.

19. Petai pob rhan o'r corff yr un fath â'i gilydd, fyddai'r corff ddim yn bod!

20. Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff.

21. Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!”

22. Yn hollol fel arall – mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol!

23. Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i'w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus.

24. Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy'n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi'r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch.

25. Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd.

26. Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd.

27. Chi gyda'ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o'r corff hwnnw.

28. Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy'n gwneud gwyrthiau, rhai sy'n cael doniau i iacháu, rhai sy'n helpu eraill, rhai sy'n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr.

29. Ydy pawb yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn gwneud gwyrthiau?

30. Ydy pawb yn cael doniau i iacháu? Ydy pawb yn siarad ieithoedd dieithr? Ydy pawb yn gallu esbonio beth sy'n cael ei ddweud? Wrth gwrs ddim!

31. Ond ceisiwch yn frwd y doniau hynny sy'n gwneud mwya o les.A dw i am ddangos y ffordd orau un i chi.