Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dilynwch fy esiampl i, fel dw i'n dilyn esiampl y Meseia.

Addoliad Gweddus

2. Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛!

3. Ond rhaid i chi ddeall bod bywyd pob dyn yn tarddu o'r Meseia, a bod bywyd gwraig yn tarddu o'r dyn, ac mai o Dduw mae bywyd y Meseia yn tarddu.

4. Mae pob dyn sy'n gweddïo neu'n proffwydo gyda rhywbeth ar ei ben yn colli ei hunan-barch.

5. Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch – mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen.

6. Os ydy gwraig ddim am orchuddio'i phen, dylai gael gwared â'i gwallt. Ac os ydy e'n beth cywilyddus i wraig gael gwared â'i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen.

7. Ddylai dyn ddim gorchuddio'i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander; ond dangos ysblander dyn mae'r wraig.

8. Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn.

9. A chafodd dyn ddim ei greu er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn dyn.

10. Dyna pam dylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni – ac o achos yr angylion hefyd.

11. Beth bynnag, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn annibynnol ar ei gilydd.

12. Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw.

13. Beth ydy'ch barn chi? Ydy hi'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?

14. Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn,

15. ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi ei roi iddi hi fel gorchudd.

16. Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.

Swper yr Arglwydd

17. Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

18. Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.

19. “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e?

20. Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddowch at eich gilydd!

21. Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!

22. Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl!

23. Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.

24. Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”

25. Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi ei selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”

26. Bob tro byddwch chi'n bwyta'r bara ac yn yfed o'r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.

27. Felly, bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara neu'n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy'n anweddus yn cael ei gyfri'n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.

28. Dyna pam mae'n bwysig edrych yn fanwl ar ein bywydau cyn bwyta'r bara ac yfed o'r cwpan.

29. Mae pawb sy'n bwyta ac yfed yn ddifeddwl, heb gydnabod ein bod gyda'n gilydd yn ‛gorff yr Arglwydd‛ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain.

30. Dyna pam mae cymaint ohonoch chi'n dioddef o wendid a salwch, a pam mae rhai hyd yn oed wedi marw.

31. Petaen ni'n gwylio'n hymddygiad yn ofalus, fyddai dim rhaid i ni gael ein barnu.

32. Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e'n ei wneud, dim ein condemnio gyda'r byd.

33. Felly pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i fwyta, frodyr a chwiorydd, arhoswch nes bydd pawb wedi cyrraedd.

34. Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda'ch gilydd ddim yn arwain i farn.Bydda i'n delio gyda'r materion eraill pan fydda i'n dod atoch chi.