Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Os dw i'n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu symbal yn diasbedain.

2. Falle fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf – neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Falle fod gen i ddigon o ffydd i ‛symud mynyddoedd‛ – ond heb gariad dw i'n dda i ddim.

3. Falle mod i'n fodlon rhannu'r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd – ond heb gariad, dw i'n ennill dim.

4. Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun.

5. Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.

6. Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni – beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir.

7. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.

8. Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau'n dod i ben; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth.

9. Wedi'r cwbl, ychydig dŷn ni'n ei wybod a dydy'n proffwydo ni ddim yn dweud popeth chwaith.

10. Pan fydd beth sy'n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi rhyw gipolwg bach i ni yn cael eu hysgubo o'r neilltu.

11. Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu'n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn.

12. A dyna sut mae hi – dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i'n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i.

13. Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy'n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad.