Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 16 beibl.net 2015 (BNET)

Y casgliad i bobl Dduw

1. I droi at yr arian sy'n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i'w wneud.

2. Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw.

3. Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i'n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi'r rhai fyddwch chi'n eu dewis i fynd â'ch rhodd i Jerwsalem.

4. Ac os dych chi'n meddwl y byddai'n beth da i mi fynd, gallan nhw fynd gyda mi.

Cais personol

5. Dw i'n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i'n dod i'ch gweld chi ar ôl hynny.

6. Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn – hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith.

7. Petawn i'n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a'i myn.

8. Dw i'n mynd i aros yn Effesus tan y Pentecost,

9. am fod cyfle i wneud gwaith mawr wedi codi yma, er bod digon o wrthwynebiad.

10. Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw.

11. Felly ddylai neb ac edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i'n edrych ymlaen at ei weld e a'r brodyr eraill.

12. Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle!

13. Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf.

14. Gwnewch bopeth mewn cariad.

15. Gwyddoch mai'r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i'n eich annog chi, frodyr a chwiorydd,

16. i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith.

17. Roeddwn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi.

18. Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae'n bwysig cydnabod rhai fel nhw.

Cyfarchion i gloi

19. Mae'r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi'n frwd yn yr Arglwydd, a'r eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.

20. Yn wir, mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion.Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.

21. Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL.

22. Os ydy rhywun ddim yn caru'r Arglwydd, mae dan felltith! O, tyrd Arglwydd!

23. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.

24. Fy nghariad atoch chi i gyd sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Amen.