Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10 beibl.net 2015 (BNET)

Rhybuddion o hanes Israel

1. Dw i am i chi gofio, frodyr a chwiorydd, fod ein hynafiaid ni i gyd wedi bod dan y cwmwl, ac roedd pob un ohonyn nhw wedi mynd drwy'r môr.

2. Cafodd pob un ohonyn nhw eu ‛bedyddio‛ fel dilynwyr Moses yn y cwmwl a'r môr.

3. Cafodd pob un ohonyn nhw fwyta yr un bwyd ysbrydol

4. ac yfed yr un dŵr ysbrydol. Roedden nhw'n yfed o'r graig ysbrydol oedd yn teithio gyda nhw – a'r Meseia oedd y graig honno.

5. Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw – “buon nhw farw yn yr anialwch.”

6. Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i'n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw.

7. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.”

8. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod!

9. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd.

10. Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw.

11. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.

12. Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!

13. Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.

Partïon eilunod a Swper yr Arglwydd

14. Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.

15. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ei ddweud:

16. Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia?

17. Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth.

18. Meddyliwch am bobl Israel: Onid ydy'r rhai sy'n bwyta o'r aberthau yn cyfrannu o arwyddocâd yr aberth ar yr allor?

19. Felly beth dw i'n geisio ei ddweud? – fod bwyta beth sydd wedi ei offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth?

20. Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid.

21. Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid.

22. Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e?

Rhyddid y crediniwr

23. “Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.

24. Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.

25. Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau,

26. am mai “Duw sydd biau'r ddaear, a phopeth sydd ynddi.”

27. Ac os ydy rhywun sydd ddim yn Gristion yn gwahodd rhai ohonoch chi am bryd o fwyd, a chithau eisiau derbyn y gwahoddiad, gallwch fwyta popeth sy'n cael ei roi o'ch blaen – does dim rhaid gofyn cwestiynau.

28. Ond os ydy rhywun yn dweud, “Mae hwn wedi cael ei offrymu yn aberth,” dylech beidio ei fwyta. Gwnewch hynny er mwyn y person a ddwedodd wrthoch chi, a lles y cydwybod –

29. cydwybod y person hwnnw dw i'n ei olygu, nid eich cydwybod chi. “Ond pam dylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” meddech chi.

30. “Os dw i'n diolch i Dduw am y bwyd o mlaen i, pam dylwn i gael enw drwg am ei fwyta?”

31. Dyma pam: Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw.

32. Ac mae hynny'n golygu osgoi gwneud niwed i bobl eraill – yn Iddewon, yn bobl o genhedloedd eraill, neu'n bobl sy'n perthyn i eglwys Dduw.

33. Dyna dw i'n ceisio'i wneud – dw i'n ystyried beth sy'n gwneud lles i bawb arall. Yn lle meddwl beth dw i fy hun eisiau, dw i'n meddwl am bobl eraill. Dw i eisiau iddyn nhw gael eu hachub!