Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 8 beibl.net 2015 (BNET)

Ail Weledigaeth Eseciel

Addoli Eilunod yn y Deml

1. Roedd hi chwe blynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r chweched mis. Roeddwn i'n eistedd yn y tŷ gydag arweinwyr Jwda o'm blaen i. A dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i.

2. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O'i ganol i lawr roedd fel fflamau tân, ac o'i ganol i fyny roedd yn llachar fel ffwrnais fetel.

3. Dyma fe'n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i'r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy'n wynebu'r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr ARGLWYDD mor ddig.

4. A dyna lle roedd ysblander Duw Israel o'm blaen i, yn union yr un fath â'r hyn welais i yn y dyffryn y tro cyntaf.

5. A dyma Duw'n dweud wrtho i: “Ddyn, edrych i gyfeiriad y gogledd.” Dyma fi'n edrych, a dyna ble roedd allor i'r ddelw oedd wedi gwneud Duw mor ddig.

6. “Edrych beth mae'r bobl yn ei wneud!” meddai Duw. “Mae pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd, ac yn fy ngyrru i allan o'r deml. Ond mae yna bethau gwaeth na hyn!”

7. Dyma fe'n mynd â fi at fynedfa'r cyntedd. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld twll yn y wal.

8. “Torra trwy'r twll,” meddai Duw. Felly dyma fi'n gwthio drwy'r twll ac yn darganfod drws.

9. “Dos i mewn, i ti gael gweld y pethau cwbl ffiaidd maen nhw'n eu gwneud yna!” meddai Duw

10. Felly dyma fi'n mynd i mewn. Ar y waliau o'm blaen i roedd lluniau o bob math o ymlusgiaid a chreaduriaid ffiaidd eraill, a'r holl eilun-dduwiau mae pobl Israel wedi bod yn eu haddoli.

11. Dyna lle roedd saith deg o arweinwyr Israel yn sefyll o flaen y lluniau yma oedd wedi eu cerfio ar y waliau, a Jaasaneia fab Shaffan yn y canol. Roedd pob un ohonyn nhw yn dal llestr i losgi arogldarth, ac roedd mwg yr arogldarth yn yr awyr ym mhobman.

12. A dyma Duw yn dweud wrtho i: “Ddyn, wyt ti'n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y tywyllwch – pob un ohonyn nhw o flaen ei hoff eilun? ‘Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld. Mae e wedi troi cefn ar y wlad,’ medden nhw.

13. Ond rwyt ti'n mynd i weld pethau gwaeth fyth!”

14. Dyma fe'n mynd â fi at giât y gogledd yn y deml. A dyna lle roedd merched yn mynd trwy'r ddefod o wylo ar ôl Tammws, duw ffrwythlondeb Babilon!

15. “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i. “Ond mae gwaeth i ddod eto!”

16. Dyma fe'n mynd â fi i iard fewnol teml yr ARGLWYDD. Ac yno, wrth y fynedfa i'r cysegr, rhwng y cyntedd a'r allor, roedd tua dau ddeg pump o ddynion. Roedden nhw wedi troi eu cefnau ar y cysegr, ac yn wynebu'r dwyrain a plygu i lawr i addoli'r haul!

17. “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i eto. “Ai peth bach ydy'r ffaith fod pobl Jwda'n gwneud y pethau ffiaidd yma? Maen nhw wedi fy ngwylltio i ddigon yn barod yn llenwi'r wlad hefo trais. A dyma nhw eto yn codi dau fys ata i!

18. Bydda i'n ymateb yn ffyrnig! Fydd yna ddim trugaredd! Cân nhw weiddi am drugaredd faint fynnan nhw, ond wna i ddim gwrando.”