Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 31 beibl.net 2015 (BNET)

Torri'r Goeden Gedrwydd

1. Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:

2. “Ddyn, dywed wrth y Pharo, brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd:‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di?

3. Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig.Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau.

4. Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas;a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd.

5. Ond roedd y goeden hon yn dalachna'r coed o'i chwmpas i gyd.Canghennau mawr a brigau hirion,a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr.

6. Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.Roedd y gwledydd mawr i gydyn byw dan ei chysgod.

7. Roedd yn rhyfeddol o hardd,gyda changhennau hirion;a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfnat ddigonedd o ddŵr.

8. Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duwddim yn cystadlu â hi.Doedd canghennau'r coed pinwyddddim byd tebyg;a'r coed planwydd yn ddimo'u cymharu â hi.Doedd dim un o goed gardd Duwmor hardd â hon!

9. Fi wnaeth hi'n harddgyda'i holl ganghennau.Roedd coed Eden i gyd,coed gardd Duw, yn genfigennus ohoni.

10. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau,

11. rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi ei thaflu hi i ffwrdd.

12. Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi ei thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd.

13. Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.

14. “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.

15. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo.

16. Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda pawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni.

17. Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda pawb arall oedd wedi eu lladd gan y cleddyf.

18. “‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau'n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi'n byw gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin enfawr,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.