1. Yna dyma'r dyn yn mynd â fi i mewn i gysegr allanol adeilad y deml. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa. Roedden nhw'n dri metr o led.
2. Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led.
3. Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner.
4. Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella'r cysegr allanol. “Dyma'r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i.
5. Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led.
6. Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi eu gosod yn wal y deml ei hun.
7. Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol.
8. Roedd y deml wedi ei hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma'n rhoi sylfaen i'r ystafelloedd ochr.
9. Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml
10. a'r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led.
11. Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i'r lle agored – un yn wynebu'r gogledd a'r llall yn wynebu'r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl.
12. Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd.
13. Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall.
14. Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner.
15. Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt
16. wedi eu panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a'r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu'r trothwy wedi eu panelu o'r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri,
17. ar y wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol ac ar y tu allan a'r tu mewn i'r cysegr mewnol ei hun
18. roedd y cwbl wedi ei addurno gyda ceriwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a ceriwb bob yn ail. Roedd gan bob ceriwb ddau wyneb –
19. wyneb dyn ac wyneb llew. Roedd y rhain wedi eu cerfio dros y deml i gyd.
20. Roedden nhw'n addurno'r cysegr allanol i gyd, o'r llawr i'r darn o wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol.
21. Roedd colofnau sgwâr bob ochr i fynedfa'r cysegr allanol. Yna o flaen y cysegr mewnol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel
22. allor bren. Roedd yn fetr a hanner o uchder ac yn fetr o hyd. Roedd ei gorneli, ei waelod a'i ochrau yn bren. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Dyma'r bwrdd sy'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.”
23. Roedd drysau dwbl i mewn i'r cysegr allanol ac i'r cysegr mewnol,
24. gyda'r drysau'n agor at allan ac i mewn.
25. Roedd ceriwbiaid a choed palmwydd wedi eu cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwch ben y cyntedd y tu allan.
26. Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau'r cyntedd. Roedd canopïau uwch ben ystafelloedd ochr y deml hefyd.