Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 47 beibl.net 2015 (BNET)

Dŵr sy'n rhoi Bywyd

1. Aeth y dyn â fi yn ôl at fynedfa'r deml ei hun. Gwelais fod dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain (sef y cyfeiriad roedd y deml yn ei wynebu). Roedd y dŵr yn llifo ar hyd wal ddeheuol y deml, i'r de o'r allor.

2. Yna aeth y dyn â fi allan drwy giât y gogledd a rownd at y giât allanol sy'n wynebu'r dwyrain. Yno roedd y dŵr i'w weld yn pistyllio allan ar yr ochr ddeheuol i'r giât.

3. Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau.

4. Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol.

5. Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded trwyddo.

6. Yna dwedodd wrtho i, “Ddyn, wyt ti wedi gweld hyn?”Yna aeth â fi yn ôl i lan yr afon.

7. Pan gyrhaeddais yno gwelais fod lot fawr o goed yn tyfu bob ochr i'r afon.

8. “Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Araba ac yna i'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres.

9. Ble bynnag mae'r afon yn llifo bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi y dŵr hallt yn ddŵr glân. Ble bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo.

10. Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir.

11. Ond bydd y corsydd a'r pyllau o'i gwmpas yn aros yn hallt.

12. Bydd coed ffrwythau o bob math yn tyfu bob ochr i'r afon. Fydd eu dail byth yn gwywo, a bydd ffrwyth yn tyfu arnyn nhw bob amser. Bydd cnwd newydd yn tyfu arnyn nhw bob mis am fod eu dŵr yn llifo o'r cysegr. Bydd eu ffrwyth yn fwyd, a'i dail yn iacháu.”

Rhannu'r Tir

Ffiniau'r Tir

13. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyma'r ffiniau ar gyfer rhannu'r tir rhwng deuddeg llwyth Israel (Bydd Joseff yn cael dwy ran).

14. Mae'r tir i'w rannu'n gyfartal rhwng y llwythau. Roeddwn i wedi ei addo i'r hynafiaid, ac mae'n cael ei roi yn etifeddiaeth i chi.

15. “A dyma'r ffiniau:Bydd ffin y gogledd yn rhedeg o Fôr y Canoldir ar hyd ffordd Chethlon a Bwlch Chamath i Sedad.

16. Wedyn i Berotha a Sibraim (sydd ar y ffin rhwng Damascus a Chamath), ac yna'r holl ffordd i Chatser-hatticon (sydd ar y ffin gyda Chawran).

17. Felly bydd y ffin yn rhedeg o Fôr y Canoldir i Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Dyna ffin y gogledd.

18. Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr Afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain.

19. Yn y de, bydd y ffin yn rhedeg ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. Dyna ffin y de.

20. Wedyn i'r gorllewin, Môr y Canoldir ei hun fydd y ffin i fyny'r holl ffordd at bwynt gyferbyn â Bwlch Chamath. Dyna ffin y gorllewin.

21. “Dyma sut mae'r tir o fewn y ffiniau yma i gael ei rannu rhwng llwythau Israel.

22. Mae i'w rannu rhyngoch yn etifeddiaeth i chi a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi ac yn magu eu plant yn eich plith. Rhaid i chi eu trin nhw fel petaen nhw wedi eu geni yn Israeliaid. Maen nhw i gael etifeddu tir fel pawb arall.

23. Ble bynnag mae mewnfudwr yn byw, mae i gael tir i'w etifeddu gyda pawb arall yn y llwyth hwnnw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.