Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 10 beibl.net 2015 (BNET)

Ysblander Duw yn gadael y Deml

1. Yna wrth i mi edrych dyma fi'n gweld, ar y llwyfan uwch ben y ceriwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi ei gwneud o saffir yn dod i'r golwg.

2. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y ceriwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.”A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor.

3. (Roedd y ceriwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o'r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi'r iard fewnol.)

4. Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol.

5. Roedd sŵn adenydd y ceriwbiaid i'w glywed o'r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy'n rheoli popeth yn siarad.

6. Pan ddwedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o'r tân sydd rhwng yr olwynion dan y ceriwbiaid,” dyma fe'n mynd a sefyll wrth ymyl un o'r olwynion.

7-8. Roedd gan y ceriwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r ceriwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan.

9. Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y ceriwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob ceriwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir.

10. Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â'i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr.

11. Pan oedd y ceriwbiaid yn symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi.

12. Roedd eu cyrff yn gyfan – eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd – wedi eu gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi eu gorchuddio â llygaid hefyd.

13. Clywais yr olwynion yn cael eu galw yn "olwynion yn chwyrlïo".

14. Roedd gan bob un o'r ceriwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw, wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr.

15. A dyma'r ceriwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar.

16. Pan oedd y ceriwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw.

17. Pan oedd y ceriwbiaid yn stopio neu'n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.

18. A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn symud i ffwrdd o'r deml, ac yn hofran uwchben y ceriwbiaid.

19. Ac wrth i mi edrych, dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a'r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw'n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.

20. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Roeddwn i'n sylweddoli mai ceriwbiaid oedden nhw.

21. Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd.

22. Roedd eu hwynebau yn union yr un fath â'r rhai roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar. Roedden nhw'n symud yn syth yn eu blaenau.