Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9 beibl.net 2015 (BNET)

Duw yn barnu

1. Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn:“Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini'n ysgwyd!Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr,A bydda i'n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel.Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc!

2. Hyd yn oed tasen nhw'n cloddio i lawr i Fyd y Meirw,byddwn i'n dal i gael gafael ynddyn nhw!A tasen nhw'n dringo i fyny i'r nefoedd,byddwn i'n eu tynnu nhw i lawr oddi yno.

3. Petaen nhw'n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel,byddwn i'n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw.A tasen nhw'n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr,byddwn i'n cael y Sarff sydd yno i'w brathu nhw.

4. Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud,byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno.Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhwac nid da.”

5. Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi;a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.

6. Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoeddac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear.Mae'n galw'r dŵr o'r môrac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir—yr ARGLWYDD ydy ei enw e!

7. “I mi, bobl Israel, dych chiddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft,ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Cretaa'r Syriaid o Cir.”

8. Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD,yn cadw golwg ar y wlad bechadurus.“Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear!Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

9. “Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymynac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd,fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr,a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd.

10. Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel,sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr,‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni,na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’

Adfer Teyrnas Dafydd

11. Ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydluteyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion.Bydda i'n ei adfer i fod fel yr oedd yn yr hen ddyddiau.

12. Byddan nhw'n cymryd meddiant etoo'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom,a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n mynd i wneud hyn i gyd.

13. “Gwyliwch chi!” meddai'r ARGLWYDD, “Mae'r amser yn dod,pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig etocyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu!A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathrupan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto.Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedda bydd yn llifo i lawr y bryniau.

14. Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i'w gwlad.Byddan nhw'n ailadeiladu'r trefi sy'n adfeilion,ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto.Byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin.Byddan nhw'n trin eu gerddi ac yn bwyta'r ffrwythau.

15. Bydda i'n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain,a fydd neb yn eu diwreiddio nhwo'r wlad dw i wedi ei rhoi iddyn nhw.”—yr ARGLWYDD, eich Duw chi, sy'n dweud hyn.