Penodau

  1. 1

Hen Destament

Testament Newydd

Obadeia 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gweledigaeth Obadeia.Dyma beth mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi ei ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”

Bydd Duw yn cosbi Edom

2. Mae'r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom:“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.

3. Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl,‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’

4. Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,bydda i'n dy dynnu di i lawr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

5. “Petai lladron yn dod atat ti,neu ysbeilwyr yn y nos,bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!

6. Bydd pobl Esau yn colli popeth;bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!

7. Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;cei dy yrru at dy ffiniau.Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda tiwedi gosod trap heb i ti wybod.”

8. “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n difa rhai doeth Edom,a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.

9. Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.O achos y lladdfa,

Y drwg wnaeth Edom

10. a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd,bydd cywilydd yn dy orchuddio,a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.

11. Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltutra roedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;pan oedd byddin estron yn mynd trwy ei giatiaua gamblo am gyfoeth Jerwsalem,doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!

12. Sut allet ti syllu a mwynhau'rdrychineb ddaeth i ran dy frawd?Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwdaar ddiwrnod eu difa?Sut allet ti chwerthinar ddiwrnod y dioddef?

13. Sut allet ti fynd at giatiau fy mhoblar ddiwrnod eu trychineb?Syllu a mwynhau eu trallodar ddiwrnod eu trychineb.Sut allet ti ddwyn eu heiddoar ddiwrnod eu trychineb?

14. Sut allet ti sefyll ar y groesfforddac ymosod ar y ffoaduriaid!Sut allet ti eu rhoi yn llaw'r gelynar ddiwrnod y dioddef?

Barn Duw a buddugoliaeth Israel

15. Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos,a bydda i'n barnu'r cenhedloedd i gyd.Byddi'n diodde beth wnest ti i eraill;cei dy dalu'n ôl am beth gafodd ei wneud.

16. Fel y gwnaethoch chi yfedar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi,bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed –yfed nes byddan nhw'n chwil.Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli.

17. Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc– bydd yn lle cysegredig eto.Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôloddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.

18. Teulu Jacob fydd y tân,a theulu Joseff fydd y fflamau,a theulu Esau fydd y bonion gwellt!Byddan nhw'n eu llosgi a'u difa,a fydd neb o deulu Esau ar ôl.”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

19. Byddan nhw'n cipio'r Negef oddi ar bobl mynydd Esau,a Seffela oddi ar y Philistiaid.Byddan nhw'n ennill yn ôl dir Effraima'r ardal o gwmpas Samaria,a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead.

20. Bydd byddin o bobl Israel o'r gaethgludyn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath;a pobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bellyn meddiannu pentrefi'r Negef.

21. Bydd y rhai gafodd eu hachubyn mynd i Fynydd Seionac yn rheoli Edom –a'r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu.