Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 8 beibl.net 2015 (BNET)

Basged o Ffigys Aeddfed

1. Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: basged yn llawn ffigys aeddfed.

2. A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.

3. Bydd y merched sy'n canu yn y palas yn udo crïo ar y diwrnod hwnnw”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!”

Mae ar ben ar Israel

4. Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan,ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad.

5. Chi sy'n mwmblan i'ch hunain,“Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? –i ni gael gwerthu'n cnydau eto.Pryd fydd y dydd saboth drosodd? –i ni gael gwerthu'r ŷd eto.Gallwn godi pris uchel am fesur prin,a defnyddio clorian sy'n twyllo.

6. Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled,a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau.Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!”

7. Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob:“Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi ei wneud.”

8. Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyna phawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.

9. “A'r diwrnod hwnnw,”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“bydda i'n gwneud i'r haul fachlud ganol dydd,a bydd y wlad yn troi'n dywyll yng ngolau dydd.

10. Bydda i'n troi eich partïon yn angladdaua'ch holl ganeuon yn gerddi galar.Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi,a bydd pob pen yn cael ei siafio.Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab;fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.

11. “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.”Dim newyn am fara neu syched am ddŵr,ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD.

12. Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewini'r Môr Marw yn y de,ac o'r gogledd i'r dwyrain,er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD,ond byddan nhw'n methu.

13. Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryfyn llewygu am fod syched arnyn nhw –

14. Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria,ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!”neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” –byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto.