Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 4 beibl.net 2015 (BNET)

Gwragedd Samaria

1. Gwrandwch ar hyn, chi wartheg Bashan!Ie, chi wragedd Samaria dw i'n ei olygu!Chi sy'n twyllo pobl dlawd,ac yn gwneud i'r gwan ddioddef.Chi sy'n dweud wrth eich gwŷr,“Tyrd â diod i ni gael parti!”

2. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd ar ei lw,mor sicr â'i fod yn sanctaidd:“Gwyliwch chi! Mae'r amser yn dod pan fyddan nhw'neich arwain chi i ffwrdd â bachau –pob copa walltog gyda bachau pysgota.

3. Byddwch chi'n cael eich llusgo allan o'r ddinasdrwy'r tyllau yn y wal gyferbyn a'ch tai –Byddwch chi'n cael eich taflu ar y domen sbwriel!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Israel yn gwrthod gwrando

4. “Dewch i'r cysegr yn Bethel i bechu yn fy erbyn i!Dewch i'r cysegr yn Gilgal, a phechu mwy fyth!Dewch i gyflwyno eich aberth yn y borea thalu'r degwm y diwrnod wedyn.

5. Dewch i losgi eich offrwm diolch gyda bara sydd â burum ynddo!Dewch i wneud sioe wrth gyflwyno eich offrwm gwirfoddol!Dych chi wrth eich bodd yn gwneud pethau felly, bobl Israel.”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

6. “Fi oedd yr un ddaeth â newyn arnoch chi yn eich holl drefi;doedd gynnoch chi ddim i'w fwyta yn unman.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7. “Fi rwystrodd hi rhag glawiopan oedd y cnydau angen glaw i dyfu.Roeddwn i'n rhoi glaw i un drea dim glaw i dre arall.Roedd hi'n glawio ar un cae,ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwblac roedd y cnwd yn gwywo.

8. Roedd pobl dwy neu dair o drefiyn llusgo'u ffordd i dre arall,yn y gobaith o gael dŵr i'w yfed,ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

9. “Dyma fi'n eich cosbi chi drwy anfon haint a llwydni ar eich cnydau.Dro ar ôl tro cafodd eich gerddi a'ch gwinllannoedd,eich coed ffigys a'ch coed olewydd,eu dinistrio'n llwyr gan blâu o locustiaid.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10. “Dyma fi'n anfon afiechydon i'ch poenydio,fel y plâu yn yr Aifft.Dyma fi'n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel,a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch.Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

11. “Dyma fi'n dinistrio rhai ohonoch chifel gwnes i ddinistrio Sodom a Gomorra.Roeddech chi fel darn o bren yn mudlosgiar ôl cael ei gipio o'r tân.Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Felly, dw i'n mynd i dy gosbi di, Israel.Dyna dw i'n mynd i'w wneud,felly, bydd barod i wynebu dy Dduw!”

13. Edrych! Duw wnaeth y mynyddoedd, a chreu y gwynt.– y Duw sydd wedi dweud wrth bobl beth sydd ganddo eisiau –Fe sy'n troi y wawr yn dywyllwch,ac yn rheoli popeth ar y ddaear—yr ARGLWYDD ydy ei enw e, y Duw holl-bwerus!