Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa.Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel.

2. Dyma ddwedodd Amos:“Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion,a'i lais yn taranu o Jerwsalem,nes bod porfa'r anifeiliaid yn gwywo,a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.”

Barn Duw ar y gwledydd o gwmpas IsraelMae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Jeremeia 46-51; Eseia 13-23; Eseciel 25-32. Mae'n ein hatgoffa mai Duw ydy'r unig wir Dduw, a'i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.

Syria

3. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead,a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi.

4. Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.

5. Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus,yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden.Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Philistia

6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,

7. Felly bydda i'n llosgi waliau Gasa,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.

8. Bydda i'n cael gwared â'r un sy'n llywodraethu yn ninas Ashdoda'r un sy'n teyrnasu yn Ashcelon.Bydda i'n ymosod ar ddinas Ecron,nes bydd neb o'r Philistiaid ar ôl yn fyw!”—fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.

Tyrus

9. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'i brodyrdrwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,

10. Felly bydda i'n llosgi waliau Tyrus,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.”

Edom

11. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr gyda'r cleddyfa dangos dim trugaredd atyn nhw.Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wylltheb stopio'r trais o gwbl,

12. dw i'n mynd i anfon tân i losgi Teman,a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.”

Ammon

13. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gileader mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw eu hunain.

14. Felly bydda i'n llosgi waliau Rabba,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr,pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm,

15. bydd eu brenin a'i holl swyddogionyn cael eu cymryd yn gaeth gyda'i gilydd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.