Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 2 beibl.net 2015 (BNET)

Moab

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edoma'u llosgi nhw'n galch.

2. Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab,a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth.Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro,yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio.

3. Bydda i'n cael gwared â'i brenin hiac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Jwda

4. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi troi eu cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD,a heb gadw ei orchmynion e.Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorngan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.

5. Felly bydda i'n anfon tân i losgi Jwda,a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.”

Barn Duw ar Israel

6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw'n gwerthu'r dieuog am arian,a'r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! –

7. sathru'r tlawd fel baw ar lawr,a gwthio'r gwan o'r ffordd!Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch,ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.

8. Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorauar ddillad sydd wedi eu cadw'n warant am ddyled.Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw –gwin wedi ei brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl!

9. Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! –yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw.Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr,o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!

10. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aiffta'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd,ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!

11. Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydia rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid.Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin,ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau!

13. Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl,fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bacham fod llwyth trwm o ŷd arni.

14. Bydd y cyflymaf ohonoch chi yn methu dianc,a'r cryfaf yn teimlo'n hollol wan.Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun,

15. a'r bwasaethwr yn methu dal ei dir.Bydd y rhedwr cyflyma'n methu dianc,a'r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd.

16. Bydd y milwyr mwyaf dewr yn gollwng eu harfauac yn rhedeg i ffwrdd yn noeth ar y diwrnod hwnnw.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.