Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3 beibl.net 2015 (BNET)

Yr ARGLWYDD yn barnu y cenhedloedd

1. Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.

2. Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gydi “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD”Yno bydda i'n eu barnu nhwam y ffordd maen nhw wedi trinfy mhobl arbennig i, Israel.Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,rhannu y tir rois i iddyn nhw

3. a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion.Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,a merch fach am win i'w yfed.

4. Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi!

5. Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi.

6. Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain.

7. Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi!

8. Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!

Dyffryn Barn yr ARGLWYDD

9. Cyhoedda wrth y cenhedloedd:Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.Galwch eich milwyr gorau!Dewch yn eich blaen i ymosod!

10. Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,a'ch crymanau tocio yn waywffyn.Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”

11. Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.Dewch at eich gilydd yno!(“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)

12. Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd,i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD.Yno bydda i'n eistedd i lawri farnu'r cenhedloedd i gyd.

13. Mae'r cynhaeaf yn barodi'w fedi gyda'r cryman!Mae'r gwinwasg yn llawn grawnwinsy'n barod i'w sathru!Bydd y cafnau yn gorlifo!Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.

14. Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!

15. Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu,a'r sêr wedi diflannu.

16. Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion;a'i lais yn taranu o Jerwsalem,nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu.Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo,mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.

17. Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duwa'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig,a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.

Adfer Jwda a Jerwsalem

18. Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd,a llaeth yn llifo o'r bryniau;fydd nentydd Jwda byth yn sychu.Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifoallan o deml yr ARGLWYDD,i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia.

19. Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda,a lladd pobl ddiniwed yno,bydd yr Aifft yn dir diffaith gwagac Edom yn anialwch llwm.

20. Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser,ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.

21. Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw?Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw.Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!