Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 7 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Eliseus yn ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’”

2. Dyma swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!”Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”

Byddin Syria wedi gadael

3. Tu allan i giât y ddinas roedd pedwar dyn oedd yn dioddef o glefyd heintus ar y croen. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Pam ydyn ni'n aros yn y fan yma i farw?

4. Os awn ni i mewn i'r ddinas, byddwn ni'n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni'n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw'n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.”

5. Felly'r noson honno, dyma nhw'n mynd i wersyll byddin Syria. Ond wrth iddyn nhw gyrraedd cyrion y gwersyll dyma nhw'n sylweddoli fod yna neb yno.

6. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i fyddin Syria feddwl eu bod yn clywed sŵn byddin enfawr yn dod gyda ceffylau a cherbydau. Roedden nhw'n meddwl fod brenin Israel wedi talu i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Aifft i ymosod arnyn nhw.

7. Felly roedden nhw wedi dianc gyda'r nos. Roedden nhw wedi gadael eu pebyll, a'u ceffylau a'u hasynnod, a'r gwersyll fel roedd e, a ffoi am eu bywydau.

8. Pan ddaeth y dynion oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf i gyrion y gwersyll dyma nhw'n mynd i mewn i un o'r pebyll a buon nhw'n bwyta ac yfed ynddi. Yna dyma nhw'n cymryd arian, aur a dillad ohoni, a mynd i guddio'r cwbl. Wedyn dyma nhw'n mynd i babell arall, a dwyn o honno hefyd.

9. Ond yna dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Dydy hyn ddim yn iawn! Mae hi'n ddiwrnod i ddathlu, a dŷn ni wedi dweud dim wrth neb. Allwn ni ddim aros tan y bore; fyddai hynny ddim yn iawn. Dewch, rhaid i ni fynd i ddweud wrthyn nhw yn y palas.”

10. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Samaria a galw ar y wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni'r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a'r asynnod yno wedi eu clymu, a'r pebyll yn dal i sefyll.”

11. A dyma'r gwylwyr yn pasio'r neges ymlaen i balas y brenin.

12. Cododd y brenin o'i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria'n ei wneud. Maen nhw'n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw'n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, a wedyn byddan nhw'n ein dal ni, ac yn dod i mewn i'r ddinas.”

13. Ond dyma un o'r swyddogion yn awgrymu, “Gad i ni ddewis pump o'r ceffylau sydd ar ôl, ac anfon dynion allan i weld beth sy'n digwydd. Os cân nhw eu lladd, fydd hynny ddim gwaeth na beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl Israel i gyd os arhoswn ni yma – mae hi wedi darfod arnon ni i gyd.”

14. Felly dyma nhw'n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma'r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd.

15. Aethon nhw ar eu holau cyn belled â'r Afon Iorddonen. (Roedd dillad a taclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) A dyma'r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin.

16. Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw'n dod o hyd iddo. A daeth hi'n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd ARGLWYDD wedi dweud.

17. Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i'r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio.

18. Neges y proffwyd i'r brenin oedd, “Bydd un darn arian yn ddigon i brynu dwy lond sach o haidd neu sachaid o flawd mân! Bydd hyn yn digwydd yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria.”

19. Ond roedd swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, wedi ateb proffwyd Duw, “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ac roedd Eliseus wedi ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”

20. A dyna'n union oedd wedi digwydd. Roedd e wedi cael ei sathru dan draed a marw wrth giât y ddinas.