Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 6 beibl.net 2015 (BNET)

Eliseus yn gwneud i ben bwyell arnofio

1. Un diwrnod dyma aelodau'r urdd o broffwydi yn dweud wrth Eliseus, “Edrych, mae'r lle yma lle dŷn ni'n cyfarfod gyda ti yn rhy fach.

2. Beth am i ni fynd at yr Afon Iorddonen. Gallwn ni i gyd gymryd coed oddi yno, a mynd ati i adeiladu lle newydd i ni gyfarfod.”“Iawn, ewch chi,” meddai Eliseus.

3. Ond dyma un ohonyn nhw'n gofyn iddo, “Plîs wnei di ddod gyda ni?” A dyma fe'n cytuno,

4. a mynd gyda nhw.Pan gyrhaeddon nhw'r Afon Iorddonen dyma nhw'n dechrau torri coed.

5. Roedd un ohonyn nhw wrthi'n torri trawst, a dyma ben ei fwyell yn syrthio i'r dŵr. A dyma fe'n gweiddi, “O, syr! Bwyell wedi ei benthyg oedd hi!”

6. Dyma broffwyd Duw yn gofyn iddo, “Ble syrthiodd hi?”Dangosodd iddo ble, ac yna dyma Eliseus yn torri cangen o bren, a'i thaflu i'r fan, a dyma'r fwyell yn dod i'r wyneb.

7. “Gafael ynddi,” meddai Eliseus. A dyma'r proffwyd ifanc yn estyn ei law a codi'r fwyell o'r dŵr.

Eliseus yn rhwystro byddin Syria

8. Pan oedd brenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel, roedd e'n trafod y strategaeth gyda'i swyddogion milwrol. Byddai'n penderfynu codi gwersyll yn rhywle, i ymosod ar Israel.

9. Ond wedyn byddai Eliseus, proffwyd Duw, yn anfon neges at frenin Israel i ddweud wrtho am fod yn ofalus wrth fynd heibio'r lle arbennig hwnnw, am fod byddin Syria'n dod yno i ymosod.

10. Wedyn byddai brenin Israel yn anfon milwyr yno i amddiffyn y lle. Roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro.

11. Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe'n galw ei swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy'n helpu brenin Israel?”

12. Dyma un ohonyn nhw'n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni'n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti'n ddweud yn dy ystafell wely!”

13. Felly dyma'r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i'w ddal e!”Dyma nhw'n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin.

14. Felly dyma'r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw'n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu'r dre.

15. Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu'r dre. A dyma'r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?”

16. Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nac sydd gyda nhw.”

17. Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma'r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e'n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.

18. Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro'r bobl yma'n ddall.” A dyma nhw'n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn.

19. Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na'r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi'n chwilio amdano.” A dyma fe'n eu harwain nhw i Samaria.

20. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma'r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw'n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria.

21. Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe'n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw'n syth?”

22. “Na, paid lladd nhw,” meddai Eliseus. “Fyddet ti'n lladd pobl wedi eu dal mewn brwydr? Na. Rho rywbeth i'w fwyta a'i yfed iddyn nhw, ac wedyn gadael iddyn nhw fynd yn ôl at eu meistr.”

23. Felly dyma'r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl at eu meistr.O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel.

Ben-hadad, brenin Syria, yn ymosod ar Samaria

24. Flynyddoedd wedyn dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin at ei gilydd a mynd i godi gwarchae ar Samaria.

25. O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a powlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian.

26. Pan oedd brenin Israel yn cerdded ar waliau'r dref, dyma rhyw wraig yn gweiddi arno, “O frenin, syr, helpa fi!”

27. Ond dyma fe'n ateb, “Na, rhaid i'r ARGLWYDD dy helpu di. Sut alla i dy helpu di? Mae'r llawr dyrnu a'r cafn gwin yn wag!”

28. Wedyn dyma'r brenin yn gofyn iddi “Beth sy'n bod?”A dyma hi'n ateb, “Roedd y wraig yma wedi dweud wrtho i, ‘Rho dy fab di i ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’

29. Felly dyma ni'n berwi fy mab i, a'i fwyta. Yna'r diwrnod wedyn dyma fi'n dweud wrthi, ‘Tyrd â dy fab di i ni gael ei fwyta fe nawr.’ Ond roedd hi wedi cuddio ei mab.”

30. Pan glywodd y brenin hyn dyma fe'n rhwygo ei ddillad. Gan ei fod yn cerdded ar y waliau, roedd pawb yn gallu gweld ei fod e'n gwisgo sachliain oddi tanodd.

31. A dyma'r brenin yn dweud, “Boed i Dduw ddial arna i os bydd pen Eliseus yn dal ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!”

32. Roedd Eliseus yn digwydd bod yn ei dŷ, ag arweinwyr Samaria o'i gwmpas. Roedd y brenin wedi anfon un o'i ddynion i'w arestio. Ond cyn iddo gyrraedd roedd Eliseus wedi dweud wrth yr arweinwyr o'i gwmpas, “Ydych chi'n gwybod beth? Mae'r cyw llofrudd yna wedi anfon dyn i dorri fy mhen i i ffwrdd. Pan fydd e'n cyrraedd, cauwch y drws a'i rwystro rhag dod i mewn. Dw i'n siŵr y bydd y brenin ei hun ddim yn bell tu ôl iddo!”

33. Doedd Eliseus ddim wedi gorffen siarad pan gyrhaeddodd y negesydd. A dyma fe'n dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi achosi'r drwg yma. Pam ddylwn i ddisgwyl help ganddo?”