Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 25 beibl.net 2015 (BNET)

Jerwsalem yn cael ei choncro

1. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.

2. Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.)

3. Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.

4. Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)

5. Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl.

6. Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla.

7. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.

Y deml yn cael ei dinistrio

8. Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)

9. Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd.

10. Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw i lawr y waliau o gwmpas Jerwsalem.

11. A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl oedd wedi eu gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon.

12. Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl.

13. Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw "Y Môr". A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon.

14. Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad.

15. Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a'r dysglau – popeth oedd wedi ei wneud o aur pur neu arian.

16. Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a'r trolïau oedd Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso.

17. Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.

18. Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml.

19. Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas.

20. A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla,

21. a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.

Gedaleia yn rheoli Jwda

22. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi eu gadael ar ôl yng ngwlad Jwda.

23. Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a'u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad, dyma nhw'n mynd i'w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr.

24. A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.”

25. Ond yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o'i ddynion a lladd Gedaleia a'r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e.

26. Yna dyma'r boblogaeth i gyd (o'r ifancaf i'r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i'r Aifft am eu bod ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud.

Y brenin Jehoiachin yn y gaethglud

27. Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar.

28. Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon.

29. Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon,

30. ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.