Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 1 beibl.net 2015 (BNET)

Elias yn condemnio'r brenin Ahaseia

1. Ar ôl i'r brenin Ahab farw, dyma wlad Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel.

2. Tua'r un adeg dyma'r brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma fe'n anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron, os bydda i yn gwella o'r anaf yma.”

3. Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi'n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron?

4. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd.

5. Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod y ôl?”

6. A dyma nhw'n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti'n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!”’”

7. Yna dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Disgrifiwch y dyn i mi.”

8. A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.”“Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”, meddai'r brenin.

9. A dyma fe'n anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda pum deg o ddynion i nôl Elias.Dyma'r capten yn dod o hyd i Elias yn eistedd ar ben bryn. A dyma fe'n mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”

10. Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr.

11. Felly dyma'r brenin yn anfon capten arall gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”

12. Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a'i ladd e a'i filwyr.

13. Dyma'r brenin yn anfon trydydd capten gyda pum deg o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe'n mynd ar ei liniau o'i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma.

14. Mae tân wedi dod i lawr o'r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a'u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!”

15. A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.

16. A dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i'w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna, ti'n mynd i farw!’”

17. A dyna ddigwyddodd. Buodd Ahaseia farw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy Elias.Doedd ganddo ddim mab, felly dyma ei frawd Joram yn dod yn frenin yn ei le. Roedd hyn yn ystod ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat yn frenin ar Jwda.

18. Mae gweddill hanes Ahaseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.